Glaw trwm i achosi effeithiau llifogydd yng Nghymru yn ôl y rhagolygon

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynghori pobl i fod yn wyliadwrus ac i wybod beth yw eu perygl o lifogydd gan y rhagwelir y bydd glaw trwm yn achosi llifogydd ar draws De a Chanolbarth Cymru heddiw (dydd Gwener 18 Rhagfyr) ac i mewn i ddydd Sadwrn, gyda rhannau o Dde Cymru’n debygol o deimlo'r effeithiau gwaethaf.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd ambr ar gyfer glaw trwm a ddisgwylir rhwng 9am ddydd Gwener a hanner nos, gan ymestyn ar draws Cymoedd y De a chan gynnwys Castell-nedd, Pont-y-pŵl, Caerffili, Merthyr Tudful, Glynebwy a Chwmbrân.
Mae rhybudd tywydd melyn ar gyfer glaw hefyd ar waith ar gyfer ardal helaeth o Dde a Chanolbarth Cymru sy'n cwmpasu rhannau helaeth o Bowys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Disgwylir llifogydd o ddŵr wyneb ac afonydd gyda glaw yn disgyn ar dir sydd eisoes yn ddirlawn ac afonydd sydd eisoes wedi chwyddo.
Ar hyn o bryd mae gan CNC un rhybudd llifogydd ar gyfer Afon Rhydeg yn Ninbych-y-pysgod a 30 o negeseuon llifogydd pellach mewn grym ar draws rhannau eraill o Gymru. Bydd negeseuon a rhybuddion pellach yn cael eu rhoi ar waith os bydd afonydd yn cyrraedd lefelau critigol.
Mae gweithwyr ymateb brys o CNC yn gweithio gyda phartneriaid ar draws safleoedd allweddol, gan wirio bod amddiffynfeydd mewn cyflwr da a sicrhau bod unrhyw gridiau a sgriniau draenio yn glir i leihau'r risg i bobl a'u cartrefi. Mae CNC hefyd yn annog pobl i chwarae eu rhan i ddiogelu eu heiddo drwy wybod beth yw eu perygl o lifogydd a thrwy gael y wybodaeth ddiweddaraf am negeseuon a rhybuddion llifogydd sy’n weithredol yn eu hardaloedd drwy wefan CNC.
Dywedodd Sean Moore, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae disgwyl i’r band o law trwm sy'n ymledu ar draws rhannau o Gymru ddydd Gwener ac i mewn i ddydd Sadwrn ddod ag effeithiau llifogydd ac amhariad i sawl ardal o Dde a Chanolbarth Cymru.
"Mae gennym dimau allan yn edrych ar amddiffynfeydd ac yn monitro lefelau afonydd ochr yn ochr â chyngor y Swyddfa Dywydd i ragweld perygl llifogydd a byddwn yn diweddaru ein negeseuon a’n rhybuddion llifogydd fel y bo'n briodol.
"Rydym yn annog pobl i gadw llygad barcud ar adroddiadau tywydd ac ar wefan CNC am fanylion am unrhyw effeithiau posibl yn eu hardaloedd. Rydym hefyd yn cynghori i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio gan y gallai’r amgylchiadau fod yn beryglus."
Rhagwelir y bydd y glaw trwm yn parhau drwy gydol dydd Gwener ac i mewn i'r nos gyda disgwyl i rai cawodydd trwm ddisgyn ddydd Sadwrn hefyd.
Mae gwybodaeth am beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd ar gael ar wefan CNC. Mae'r gwasanaeth newydd ar lawiad, lefelau afonydd a’r môr hefyd ar gael ar y wefan gyda negeseuon a rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru bob 15 munud ar www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd