Graffiti’n difrodi ardal o ddiddordeb gwyddonol a hanesyddol yn Sir Benfro

Graffiti yn Sir Benfro

Mae graffiti wedi'i baentio ar gerrig o bwysigrwydd hanesyddol ac amgylcheddol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi achosi difrod amgylcheddol a allai gymryd degawdau i adfer.

Roedd y paent gwyn wedi difetha Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Ngharn Ingli, sy'n gartref i ystod amrywiol o greigiau, tarddiadau a phlanhigion prin gan gynnwys cennau a’r fursen brin coenagrion mercuriale.

Cynhaliodd staff o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro y gwaith gofalus i gael gwared â’r graffiti gan gymryd pob rhagofal i beidio ag achosi difrod pellach. Roeddent yn dilyn datganiad dull a gymeradwyir gan CNC i leihau'r risg o niweidio fflora'r cen ymhellach.

Ceisiwyd tynnu'r paent chwistrell gyda brwshys gwifren, ond heb fawr o lwyddiant. Roedd yn rhaid iddynt droi at ddefnyddio hydoddydd, gan ddal y paent a gweddillion yr hydoddydd yn ofalus a'u tynnu o'r safle, er mwyn atal unrhyw ddifrod pellach. Cymerwyd gofal arbennig hefyd i beidio â sathru unrhyw fflora pwysig sy'n tyfu ar y ddaear o amgylch y garreg. 

Dywedodd Ross Grisbrook, Swyddog yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Nid yn unig y mae graffiti'n anghyfreithlon ac yn hyll, ond gall hefyd fod yn niweidiol iawn i'r amgylchedd. Mae ardal sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn rhywle y dylid ei feithrin a'i barchu.
"Gall graffiti niweidio fflora’r cen sy'n tyfu ar gerrig. Ar ôl eu difrodi, gallant gymryd degawdau i ailgytrefu oherwydd eu bod yn tyfu'n araf.
"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n cael ei demtio i wneud y fath beth eto i feddwl am yr effaith mae’n ei chael."

Dywedodd Tomos Jones, Archaeolegydd Cymunedol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

"Fel awdurdod parc cenedlaethol, rhan o'n cylch gwaith yw diogelu'r rhinweddau arbennig sy'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
"Mae'n digalonni rhywun pan fo graffiti'n ymddangos a allai niweidio safleoedd gwyddonol bwysig a'u hecoleg, yn ogystal â thirweddau sydd o arwyddocâd hanesyddol.
"Roedd cael gwared ar y graffiti penodol yma’n heriol ac roedd angen meddwl yn ofalus.
"Rydym yn gobeithio bod yr achos hwn yn amlygu pa mor niweidiol y gall graffiti fod ac y bydd hefyd yn arwain at anghymeradwyaeth i’r arfer." 

Rhowch wybod i Heddlu Dyfed-Powys am unrhyw achos o graffiti ar-lein neu drwy ffonio 101.