Cwblhau gwaith ar wal lifogydd yn y Bontnewydd

Mae cam diweddaraf y gwaith i leihau'r risg o lifogydd i drigolion mewn pentref yng ngogledd Cymru wedi’i gwblhau. Cafodd naw eiddo yn y Bontnewydd ger Caernarfon eu heffeithio'n ddrwg gan lifogydd ym mis Tachwedd 2015.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gwella wal glan yr afon er mwyn helpu i ddiogelu eiddo yn ystad Glanrafon o’r Afon Gwyrfai.

Mae'r gwaith yn rhan o welliannau sydd ar y gweill gan Gyngor Gwynedd, Dŵr Cymru a CNC yn gweithio gyda Grŵp Afon Gwyrfai.

Meddai Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau, CNC:

“Mae'r gwaith yn gam ymlaen o ran ymdrechion parhaus i leihau perygl llifogydd ar gyfer y gymuned ym Mhontnewydd.
“Er na allwn atal perygl llifogydd yn llwyr, bydd y gwaith hwn yn lleihau'r risg, gan ddod â thawelwch meddwl i bobl stâd Glanrafon.”

Gwnaed y gwaith gan gontractwyr CNC William Hughes Civil Engineering Ltd.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Gwynedd yn cwblhau gwaith modelu'r dalgylch cyfan i ystyried pob agwedd ar faterion perygl llifogydd gan gynnwys llifogydd o afonydd a dŵr wyneb.

I gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau llifogydd, neu rybuddion llifogydd, ewch i cyfoethnaturiol.cymru/llifogyddg Neu cysylltwch â Floodline: - 0345 988 1188