Dirwy i gwmni adeiladu am lygru cwrs dŵr

Mae cwmni adeiladu yn Ne Cymru wedi cael dirwy o dros £32,000 wedi iddo gyfaddef bod dŵr ffo o un o’i safleoedd wedi llygru nant yng Nghoedelái, Tonyrefail, sawl gwaith.

Yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, plediodd Lewis Homes (South Wales) Ltd yn euog o achosi arllwysiad anghyfreithlon o ddŵr a oedd yn cynnwys lefel uchel o ronynnau solet i Nant Melyn, sef llednant i afon Elái.

Canfuwyd yr arllwysiad ym mis Ionawr 2018, pan sylwodd un o swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gynnal arolygiad arferol o’r ardal, fod y dŵr yn Nant Melyn yn lliw oren a brown lle roedd y nant yn ymuno ag afon Elái.

Llwyddodd y swyddogion i olrhain yr arllwysiad i strwythur gollwng ar safle Lewis Homes gerllaw yn Highfields, Tonyrefail.

Canfuwyd bod samplau a anfonwyd i’w dadansoddi yn cynnwys symiau sylweddol o solidau mewn daliant, a fesurai 14,000mg fesul litr yn yr ollyngfa a 1,040mg fesul litr i lawr yr afon. Fel arfer, byddai trwydded amgylcheddol yn caniatáu rhwng 30mg a 100mg fesul litr.

Mae afon Elái yn silfa bwysig i eogiaid, sy’n dibynnu ar lifau dŵr glân. Mae gronynnau silt yn lleihau lefelau ocsigen y dŵr, sy’n peri i wyau gael eu colli, yn difrodi graeanau silio ac yn cael effaith andwyol ar boblogaethau eogiaid. 

Rhoddwyd gorchymyn i Lewis Homes dalu £13,300 am achosion o dorri Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 a £13,300 am achosion o dorri Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975. Cafodd y cwmni hefyd orchymyn i dalu costau o £5,376.98 a gordal dioddefwyr o £140, sef cyfanswm felly o £32,116,19.

Dywedodd Martyn Davies a Kirsty Lewis, swyddogion amgylchedd Caerdydd a’r Fro:

“Mae rheoliadau amgylcheddol ar waith i ddiogelu pobl, bywyd gwyllt, ein hafonydd, a’n tir.

“Mae dyletswydd gofal ar y diwydiant adeiladu o ran y cymunedau y mae’n gweithredu ynddyn nhw i sicrhau bod y rheoliadau a’r dulliau diogelu cywir ar waith er mwyn atal digwyddiadau fel hyn.   

“Ni fydd CNC yn oedi cyn cymryd y camau priodol yn erbyn y rhai sy’n diystyru rheoliadau ac sy’n peryglu’r amgylchedd naturiol yr ydym i gyd yn ei drysori.”

I roi gwybod am ddigwyddiad llygru, ffoniwch ein llinell ddigwyddiadau 24 awr: 0300 065 3000.

 

DIWEDD