Dirwy i ffermwr o Sir Gaerfyrddin am achosi i filoedd o bysgod farw

Mae ffermwr o Sir Gaerfyrddin wedi cael dirwy gan Lysoedd Ynadon Abertawe am ladd miloedd o bysgod yn Afon Dulas drwy reolaeth esgeulus o slyri.
Plediodd Iwan Humphreys, 42 oed, o Crachdy Uchaf, Llanfynydd, yn euog i drosedd o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016.
Ar 8 Gorffennaf 2019, achosodd slyri i lifo i mewn i’r Afon Dulas gan effeithio yn ddifrifol ar bron i bum cilomedr o'r afon - y lefel waethaf o niwed, categori 1, yn ôl y Barnwr.
Gorchmynnwyd i Humphreys dalu’r lefel uchaf o ddirwy am y drosedd, sef cyfanswm o £11,366 (dirwy o £1,760, cost yr erlyniad o £9,430 a gordal dioddefwr o £176) yn Llysoedd Ynadon Abertawe ddydd Gwener, 11 Rhagfyr.
Dywedodd Ioan Williams, Arweinydd Tîm Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC):
"Cafodd yr esgeulustod hwn effaith ddinistriol ar Afon Dulas. Bydd yn cymryd cryn dipyn o amser i'r afon wella.
"Roedd hwn yn ddigwyddiad difrifol y gellid bod wedi'i atal pe bai'r ffermwr wedi gwneud gwiriadau digonol. Doedd dim dewis arall ond cymryd camau gorfodi."
Roedd swyddogion CNC ar y safle yn gyflym ar 8 Gorffennaf 2019, a thros sawl diwrnod daethant o hyd i dystiolaeth bod y llygredd yn dod o Fferm Crachdy Uchaf.
Cynhaliodd swyddogion amgylchedd ac arbenigwyr CNC ymchwiliad cydgysylltiedig i ddarganfod maint a difrifoldeb y digwyddiad llygredd. Roedd hyn yn cynnwys cymryd samplau dŵr, casglu tystiolaeth yn cynnwys lluniau a chyfri’r pysgod marw.
Roedd o leiaf 2,478 o bysgod marw, gan gynnwys 746 o brithyll brown. Canfuwyd hefyd fod llawer o'r boblogaeth anifeiliaid di-asgwrn-cefn bach sy'n hanfodol i ecosystem yr afon wedi'i cholli.
Canmolodd y Barnwr James ymchwiliad Cyfoeth Naturiol Cymru a’r tystiolaeth y chasglwyd.
Ychwanegodd Ioan Williams:
"Rwy'n annog ffermwyr a chontractwyr i fod yn arbennig o wyliadwrus yn ystod misoedd y gaeaf i helpu i atal llygru ein dyfrffyrdd a chynnal archwiliadau rheolaidd ar lefelau slyri a’r seilwaith storio. Os ydych yn agos at fod yn or-lawn, cysylltwch â CNC am gyngor. Gallwn eich helpu i leihau'r risg o achosi llygredd. Dim ond pan fydd yr amodau'n iawn, sy'n golygu nad ydynt yn gwargaru ar adegau pan ragwelir glaw dros y 24 awr nesaf, pan mae’r tir yn llawn dŵr a phan mae’r tir wedi rhewi.
"Rydym yn cydnabod bod pethau'n mynd o chwith weithiau, ond rydym yn annog ffermwyr, os ydyn nhw'n gwybod eu bod wedi achosi llygredd, i roi gwybod i ni ar unwaith drwy ffonio 0300 065 3000. Gorau po gyntaf y byddwn yn gwybod amdano, gorau po gyntaf y gallwn weithio gyda nhw i geisio lleihau'r effaith ar yr amgylchedd."
I roi gwybod am ddigwyddiad llygredd ffoniwch linell digwyddiadau 24 awr CNC ar 0300 065 3000.
Mae'r canllawiau arfer gorau i'w gweld ym Mhennod 5 o'r Cod Ymarfer Amaethyddol Da https://llyw.cymru/cod-ymarfer-amaethyddol-da