Prosiect yn mynd rhagddo i ddatblygu rhagolygon perygl llygredd ar draethau’r Barri

Samplwyr dwr yn y mor ym Mae Jackson

Bydd prosiect partneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chyngor Bro Morgannwg yn rhoi gwybodaeth ar y pryd i ymdrochwyr ynghylch ansawdd disgwyliedig y dŵr ar draethau yn y Barri.

Mae’r dyfroedd ar y traethau hyn ar Ynys y Barri yn boblogaidd ymhlith ymdrochwyr a nofwyr fel ei gilydd, ond gall ansawdd y dŵr ar y traethau amrywio yn y dalgylchoedd trefol hyn.

Mae rhaglen samplu dŵr yn rhedeg ar hyn o bryd ym Mae Whitmore a Bae Jackson yr haf hwn a bydd canlyniadau'r samplau a gymerir yn cael eu defnyddio i ddatblygu model i ragweld perygl llygredd.

Ar hyn o bryd mae gan ansawdd y dŵr ym Mae Whitmore ddosbarthiad ‘Da’, ond cyn 2020 roedd yn 'Rhagorol' yn rheolaidd.  

Mae gan ansawdd y dŵr ym Mae Jackson ddosbarthiad ‘Digonol’ ond mae perygl iddo ostwng i ‘Gwael’. Cyn 2020 roedd yn 'Dda' yn rheolaidd.

Nod y prosiect yw defnyddio'r data samplu, ynghyd â data meteorolegol, fel glawiad, pelydriad UV a data lefelau afonydd ac ati i ddatblygu modelau ystadegol i ddeall yn well beth sy'n effeithio ar ansawdd y dŵr ar y traethau.

Bydd hyn yn helpu i ragweld digwyddiadau llygredd tymor byr a allai gael effaith ar Fae Whitmore a Bae Jackson.

Yn y dyfodol gellir defnyddio'r modelau i roi gwybodaeth i ymdrochwyr ar ansawdd y dŵr a ragwelir ar y traethau dros gyfnod o ddiwrnod yn ystod y tymor ymdrochi, sy'n rhedeg o 15 Mai tan 30 Medi.

Meddai’r Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth:

“Mae traethau’r Barri yn croesawu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr bob haf. Gwyddom arwyddocâd ein traethau hardd i iechyd a lles ein trigolion a’n hymwelwyr.

“Rydym yn falch o’n traethau yn y Fro ac yn cydnabod pwysigrwydd iechyd y cyhoedd i’n cymunedau. Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn, gyda’r gallu i ragweld ansawdd dŵr, yn ein helpu yn ein hymrwymiad i wella iechyd y cyhoedd.

“Y gobaith yw y bydd y prosiect partneriaeth, yn y pen draw, yn gwella dosbarthiad ansawdd dŵr hoff draethau’r Barri.”

Dywedodd Fiona Abbott, Rheolwr Gweithrediadau i CNC:

“Mae cadw dyfroedd ymdrochi Cymru yn lân ac yn ddiogel i bobl a bywyd gwyllt yn rhan enfawr o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg ers blynyddoedd i fonitro ansawdd y dŵr ymdrochi o amgylch y Barri.  

“Bydd cyflwyno rhagolygon perygl llygredd yn y Barri yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch rheoli’r traethau ac yn rhoi cyngor amserol ar ansawdd y dŵr i’r cyhoedd i’w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch p’un ai i nofio neu beidio.

“Bydd hefyd yn atgyfnerthu’r dosbarthiadau dŵr ymdrochi cyffredinol trwy gyfrwng diystyru sampl o dan amodau penodol pan roddir rhybudd o ansawdd dŵr gwael disgwyliedig i bobl, o dan ganllawiau llym a bennir yn y ddeddfwriaeth.”

Cyflwynodd Rheoliadau Dŵr Ymdrochi 2013 system ddosbarthiad gyda safonau ansawdd dŵr llym sy’n rhoi pwyslais ar ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.

Yn ystod y tymor dŵr ymdrochi, mae CNC yn cymryd samplau o bob un o’r 109 dyfroedd ymdrochi dynodedig o amgylch Cymru.

Penderfynir dosbarthiadau ansawdd dŵr blynyddol o ddadansoddiad ystadegol o ganlyniadau y pedair blynedd blaenorol.

Bydd y rhaglen samplu ym Mae Whitmore a Bae Jackson yr haf hwn yn cael ei wneud gan y Ganolfan Ymchwil i’r Amgylchedd ac Iechyd, sydd hefyd wedi cael ei chontractio i ddatblygu’r modelau.

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru o dan Raglen Argyfwng Natur a Hinsawdd CNC.

Mae gwybodaeth gyffredinol am y dyfroedd ymdrochi i’w chael yn y proffiliau dŵr ymdrochi ar borwr dŵr ymdrochi CNC, sy’n cael ei letya ar wefan CNC: