CNC yn gwahardd helfeydd dilyn trywydd ar ei dir
Ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n caniatáu helfeydd dilyn trywydd ar ei dir mwyach, yn dilyn penderfyniad gan ei Fwrdd i beidio ag adnewyddu ei Brif Gytundeb gyda Chymdeithas Meistri’r Cŵn Hela (Masters of Foxhounds Association (MFHA)).
Gan fod y cytundeb â’r MFHA yn cwmpasu caniatadau ar gyfer pob math o helfeydd dilyn trywydd, gan gynnwys caniatâd mynediad yn unig ar gyfer Helfeydd a oedd yn dymuno croesi tir a reolir gan CNC, penderfynwyd dod â phob math o helfeydd dilyn trywydd i ben.
Mae helfeydd dilyn trywydd ar ystad CNC wedi’u hatal ers mis Tachwedd 2020, yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu i weminarau lle’r oedd helwyr yn trafod yr arfer.
Ym mis Hydref 2021, cafwyd cyfarwyddwr yr MFHA, Mark Hankinson, yn euog o annog y defnydd o helfeydd dilyn trywydd cyfreithlon fel twyll i gelu’r arfer o hela a lladd anifeiliaid yn anghyfreithlon.
Meddai Dominic Driver, Pennaeth Stiwardiaeth Tir ar gyfer CNC:
“Rydym wedi ystyried dyfarniad y llys a’n rôl ni yn ofalus cyn dod i benderfyniad yng nghyfarfod y Bwrdd, a gynhaliwyd gennym yn gyhoeddus, ac rydym wedi penderfynu peidio ag adnewyddu ein cytundeb â Chymdeithas Meistri’r Cŵn Hela (Masters of Foxhounds Association).
“Mae canlyniad yr achos llys yn erbyn un o uwch arweinwyr yr MFHA wedi arwain at golli hyder yng ngallu’r sefydliad i sicrhau bod ei weithgareddau’n cael eu cynnal yn unol â’r gyfraith a thelerau ei gytundeb.
“Er mwyn tawelu ein meddwl yn llwyr nad yw helfeydd dilyn trywydd ar ein hystad yn cael eu defnyddio fel modd o guddio gweithgarwch anghyfreithlon, byddai’n rhaid i ni fuddsoddi mewn sgiliau ac adnoddau nad ydynt ar gael i ni ar hyn o bryd, i’w plismona’n briodol. Oherwydd bod helfeydd fel hyn, yn hanesyddol, wedi bod yn gyfran fach o’r defnydd ar ein tir, nid yw hyn yn cynrychioli defnydd da o’n hadnoddau cyfyngedig.
“Gan fod yr holl helfeydd dilyn trywydd cael eu rheoli o dan y cytundeb hwn, rydym wedi penderfynu dod â helfeydd dilyn trywydd ar yr ystad a reolir gan CNC i ben ar unwaith.”