CNC yn rhoi cyngor ar gynllun samplu gwaddod Hinkley Point C

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi rhoi cyngor cyn ymgeisio i EDF Energy ar ei gynllun i samplu a phrofi gwaddod morol o Fôr Hafren cyn unrhyw gais am drwydded yn y dyfodol i'w waredu yng Nghymru.
Ffynhonnell y gwaddod morol yw blaendraeth Gwlad yr Haf yn Lloegr, rhan o safle adeiladu gorsaf bŵer Hinkley Point C.
Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad gan yr arbenigwr technegol, cynghorwur CNC a'r cyhoedd, mae CNC yn cytuno mewn egwyddor â'r cynllun, ond mae wedi gwneud nifer o argymhellion i sicrhau bod EDF Energy yn egluro sut y caiff gofynion canllawiau a gweithdrefnau samplu y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol eu cyflawni.
Bydd angen i EDF Energy ystyried yr argymhellion hyn cyn cyflwyno ei gynllun terfynol i CNC i'w gymeradwyo cyn gwneud cais am drwydded forol i waredu'r gwaddod morol a garthwyd yn ddiweddarach yn 2020.
Os derbynnir cais, rôl CNC fydd penderfynu a yw'r gwaddod, hyd at 600,000m3, yn addas i'w waredu yn y môr.
Mae EDF yn barod wedi gwaredu gwaddod morol o'r safle adeiladu i’r safle gwaredu oddi ar arfordir Caerdydd yn 2018 ar ôl iddo gael ei asesu'n ddiogel.
Dywedodd Michael Evans, Pennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru ar gyfer CNC:
"Hoffem ddiolch i'r rhai a roddodd eu hamser i ymateb i'n hymgynghoriad ar gynllun samplu arfaethedig EDF. Cawsom 151 o ymatebion, sy'n dangos y diddordeb sydd gan lawer o bobl ar draws De Cymru yn yr hyn y mae EDF yn bwriadu ei wneud.
"Mae'r ymatebion wedi'n galluogi ni i dynnu sylw at y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod pob elfen o gynllun samplu EDF yn cydymffurfio â chanllawiau rhyngwladol.
"Rydym yn gwybod bod y gweithgaredd gwaredu yn 2018 wedi achosi pryder mawr i'r cyhoedd, ac rydym yn cydnabod bod pobl hefyd yn pryderu am y cynllun gwaredu newydd, felly byddwn yn parhau i hysbysu pobl ac ymgysylltu â nhw drwy gydol y broses hon.
"Os byddwn yn derbyn cais am drwydded forol a chanlyniadau'r profion gwaddod, byddwn yn asesu'r wybodaeth yn drylwyr. Byddwn hefyd yn darparu cyfleoedd pellach i bobl weld a chraffu ar y cynlluniau drwy ymgynghoriad cyhoeddus cyn i ni wneud penderfyniad terfynol.
"Byddwn ond yn rhoi'r drwydded os gall y cwmni ddangos ei fod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a'n bod yn hyderus na fydd y gweithgaredd arfaethedig yn niweidio pobl neu'r amgylchedd.”
Mae rhagor o wybodaeth am gynllun samplu arfaethedig EDF Energy a'r cyngor cyn ymgeisio ar gael ar wefan CNC