Mabwysiadwch lednant a helpwch bysgod i ffynnu

Mae pobl yn y Gorllewin yn cael eu gwahodd i fabwysiadu nentydd lleol er mwyn rhoi hwb i stociau pysgod a bywyd gwyllt.

Bydd y fenter yn gwella cyflwr llednentydd afon Tywi ac yn meithrin ymdeimlad o berchnogaeth leol.

Caiff ei hariannu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Dŵr Cymru Welsh Water.

Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a Ffederasiwn Pysgotwyr Sir Gaerfyrddin sy’n arwain y prosiect a byddant yn penderfynu ar yr hyn sydd angen ei wneud.

Mae llawer o lednentydd yn silfeydd a magwrfeydd pwysig i bysgod.

Ond oherwydd amryw o ffactorau, gan gynnwys asideiddio, llygredd, rhwystrau rhag pysgod yn mudo, sbwriel, a diraddio cyffredinol i gynefinoedd, yn aml nid ydynt mor iach ag y gallent fod. 

Mae’n hanfodol eu hadfer er mwyn gwella pysgodfeydd, ansawdd dŵr a bioamrywiaeth. 

Bydd y prosiect yn gweithio gyda chymunedau lleol, perchnogion pysgodfeydd, sefydliadau addysgol a chlybiau genweirio a’u haelodau i fynd i’r afael â llawer o’r problemau sy’n effeithio ar y nentydd hyn. 

Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr a chontractwyr lleol dros 2 flynedd.

Dywedodd Dave Charlesworth, uwch-swyddog prosiect i CNC:

“Yn yr un modd ag y mae canghennau coeden yn ei helpu i dyfu a ffynnu, mae llednentydd ein nentydd a’n hafonydd bach yn hollbwysig i fywyd yn ein systemau afonydd cyfan.  
“Mae hyn yn arbennig o berthnasol i boblogaethau pysgod y mae’n rhaid iddynt gael cynefin o ansawdd da er mwyn silio.  
“Yn aml, sicrhau bod y cynefinoedd hyn wedi’u cysylltu drwy dynnu neu addasu strwythurau artiffisial yn yr afon yw’r dull symlaf a mwyaf costeffeithiol o weithredu.
“Mae’r prosiect hwn yn anelu at fynd i’r afael â llawer o’r ffactorau sy’n effeithio ar lednentydd yn Sir Gaerfyrddin, ynghyd â meithrin cydnabyddiaeth o’u gwerth mewn cymunedau lleol. 
“Mae poblogaethau pysgod o dan bwysau gwirioneddol, a bydd unrhyw beth y gallwn ei wneud i wella’u cynefin yn creu budd gwirioneddol.”

Dywedodd Gail Davies, rheolwr rhaglen amgylchedd ar gyfer Dŵr Cymru:

“Mae ein hymrwymiad i ddiogelu’r amgylchedd sydd yn ein gofal yn hynod bwysig inni, ac felly rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda CNC ac Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru i wella ansawdd dŵr a chynefin llednentydd yr afon bwysig iawn hon.
“Mae hwn yn brosiect gwych ar gyfer ymgysylltu â’r cwsmeriaid yr ydym yn eu gwasanaethu a’u hannog i ddod yn geidwaid yr afonydd sy’n chwarae rhan mor hollbwysig yn eu cymunedau, a deall sut y gallwn gyflawni gwelliannau drwy weithio mewn partneriaeth”.