Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Uskmouth Power Station - Cwestiynau Cyffredin

Gwybodaeth am gynllun y cwmni i newid ei drwydded amgylcheddol

Cyfeirnod y Cais: PAN-008534

Rhif y Drwydded: EPR/LP3131SW

Gweithredwr: Simec Uskmouth Power Limited

Cyfleuster:  Gorsaf Bŵer Aber-wysg, Heol Gorllewin Trefonnen, Trefonnen, Casnewydd NP18 2BZ

Dyddiad cychwyn yr ymgynghoriad: 26 Mawrth 2020

Dyddiad gorffen yr ymgynghoriad: 08 Mai 2020

Gorsaf bŵer glo yw gorsaf bŵer Aber-wysg. Mae wedi cynhyrchu trydan ar gyfer y grid cenedlaethol ers blynyddoedd lawer, ers y 1960au. Yn fwy diweddar, mae’r DU wedi troi oddi wrth gynhyrchu trydan â glo. Nid yw gorsaf bŵer Aber-wysg wedi gweithredu’n aml yn y blynyddoedd diwethaf, ac roedd wedi’i chlustnodi i’w chau. Nid yw wedi cynhyrchu trydan ers 2017. Mae gan Simec Uskmouth Power Limited gynllun prosiect trawsnewid sydd â’r nod o newid ffynhonnell y tanwydd o lo i beledi tanwydd amgen sy’n deillio o wastraff.

Mae gan orsaf bŵer Aber-wysg Drwydded Amgylcheddol eisoes gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer llosgi glo i gynhyrchu trydan. Cyn y gall y cwmni newid ffynhonnell y tanwydd, rhaid iddo wneud cais i CNC i amrywio’i drwydded, fel y gellir cynnal asesiad amgylcheddol llawn. 

Rydym wedi cynnal ymgynghoriad estynedig â’r cyhoedd ynglŷn â chais y cwmni. Mae’r ymgynghoriad wedi dod i ben erbyn hyn.

Hyd yn hyn, nid ydym wedi gwneud ein penderfyniad. Bydd unrhyw sylwadau perthnasol a gafwyd drwy’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried yn ystod ein hasesiad.

Beth yw’r Drwydded Amgylcheddol, a beth yw Amrywiad?

Yn ôl Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (EPR), mae’n ofynnol i rai gweithgareddau gael trwydded i weithredu, fel y gellir rheoli risgiau amgylcheddol sy’n deillio o’r gweithgareddau hyn.

Caiff gorsaf bŵer Aber-wysg ei diffinio fel gweithfa, ac ar hyn o bryd mae ganddi Drwydded Amgylcheddol i hylosgi glo i gynhyrchu trydan. Y Gweithredwr, Simec Uskmouth Power Limited, sy’n meddu ar y drwydded hon.

Yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r rheoleiddiwr ar gyfer gweithfeydd o’r fath. Rydym yn asesu ceisiadau am drwyddedau, ac yn rheoleiddio ac yn monitro deiliaid trwyddedau. Rhaid i’r gweithredwr wneud cais i amrywio’r drwydded cyn y gall wneud unrhyw newidiadau sylweddol i’r weithfa.

Ar gyfer beth mae’r cais?

Mae’r cwmni eisiau uwchraddio ac addasu’r safle, a newid ffynhonnell y tanwydd o lo i beledi tanwydd sy’n deillio o wastraff. Mae’r cynlluniau’n gwneud defnydd o’r seilwaith presennol pan fo modd.

Golyga hyn y byddai’r cyfarpar cynhyrchu trydan a chynllun cyffredinol y safle yn cael eu cadw, ond byddai’n rhaid addasu neu uwchraddio llawer ar rai rhannau o’r safle, fel y llosgyddion, y siambr hylosgi, a’r cyfarpar a ddefnyddir i lanhau nwyon gwastraff cyn iddynt gael eu rhyddhau. Mae rhai newidiadau’n angenrheidiol er mwyn gallu hylosgi tanwydd a chanddo nodweddion gwahanol, ac mae rhai newidiadau’n angenrheidiol er mwyn galluogi’r safle i fodloni safonau amgylcheddol presennol a fyddai’n berthnasol ar ôl cyflwyno’r newidiadau arfaethedig. Esbonnir hyn yn fanylach yn y cais.

Sut y byddwch yn penderfynu a ddylid caniatáu i amrywio’r Drwydded EPR?

Pan fyddwn yn cael cais, rhaid i ni benderfynu a ddylem ganiatáu amrywiad. Caiff ein penderfyniad o ran caniatáu neu wrthod amrywiad ei ddiffinio gan ofynion cyfreithiol sydd â’r bwriad o reoli’r risgiau amgylcheddol sy’n deillio o’r weithfa. 

Fel rhan o’n proses benderfynu, byddwn yn craffu ar gynigion pob cais er mwyn gwneud yn siŵr ein bod o’r farn y bydd modd i’r gweithredwr gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaethau perthnasol wrth fynd i’r afael â’r gwaith. 

Os caiff yr holl ofynion cyfreithiol eu bodloni, rhaid i ni ganiatáu trwydded neu amrywiad. Ni allwn wrthod rhoi trwydded neu amrywiad ar sail gwrthwynebiad lleol i’r gweithgaredd yn unig. Mae ein datganiad cyfranogiad cyhoeddus yn nodi pa faterion sydd o fewn ein cylch gwaith rheoleiddio a pha rai, felly, y gallwn eu hystyried

Yr unig ffocws i ni yw effeithiau amgylcheddol y gweithgaredd trwyddedig. Gall gweithgareddau cysylltiedig eraill (er enghraifft traffig a chludiant yn ôl a blaen i’r safle) arwain at effeithiau amgylcheddol, ond mae’r rhain y tu hwnt i’n cylch gwaith ni (caiff y materion hyn eu hystyried yn ystod Proses Gynllunio’r Awdurdod Lleol).

Hyd yn hyn, nid ydym wedi gwneud ein penderfyniad nac wedi cychwyn ar ein hasesiad technegol a’n penderfyniad. Daw’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn cyn yr asesiad. Bydd unrhyw sylwadau perthnasol a gyflwynir yn cael eu hystyried yn ystod ein hasesiad.

Beth mae’r amrywiad i’r drwydded yn ei gwmpasu?

Mewn termau technegol, o dan y rheoliadau byddai’r newidiadau arfaethedig yn golygu cyflwyno newid yng ngweithgaredd cofrestredig y safle o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Pe bai caniatâd yn cael ei roi, byddai’r safle’n newid o fod yn weithfa Adran 1.1 A(1) (a): 

“Llosgi unrhyw danwydd mewn dyfais â chyfradd mewnbwn thermol o 50 megawat neu fwy” [gorsaf bŵer glo]

i fod yn weithfa Adran 5.1 A(1) (b):

“Llosgi gwastraff nad yw’n beryglus ar safle llosgi gwastraff neu safle cyd-losgi gwastraff sy’n trin mwy na 3 tunnell yr awr.”

Mae’r newid technegol hwn yn angenrheidiol gan fod y tanwydd newydd arfaethedig yn deillio o ddeunydd gwastraff, a chan ei fod yn cael ei ddosbarthu fel gwastraff. Byddai’r broses hylosgi’n dal i ddigwydd, gan losgi tanwydd amgen yn hytrach na glo.

Mae’r amrywiad hefyd yn nodi’r holl newidiadau sy’n angenrheidiol i ganiatáu’r newid arfaethedig yn y tanwydd. Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno newidiadau i fanyleb a gweithrediad yr offer glanhau nwyon a’r ffwrnais hylosgi, ynghyd â gosod seilos newydd ar gyfer storio’r tanwydd arfaethedig. Mae’r cais yn nodi’r newidiadau, y risgiau amgylcheddol posibl a’r mesurau rheoli a fydd yn cael eu rhoi ar waith.

Faint o bŵer fydd y safle’n gallu ei gynhyrchu?

Y bwriad yw addasu dwy uned hylosgi sy’n bodoli eisoes er mwyn allforio 110MW o drydan fesul uned. Nid oes unrhyw fwriad i ddefnyddio trydedd uned hylosgi, gydag unrhyw fath o danwydd.

Mae pob uned yn llosgi 330MW o danwydd i gynhyrchu’r trydan. Nid yw’r newid arfaethedig yn y tanwydd yn mynd i effeithio’n sylweddol ar effeithlonrwydd y safle (oddeutu 33%) nac ar faint o drydan a gynhyrchir. Mae’r brif golled o ran ynni ar ffurf gwres, o’r tŵr oeri sy’n rhan o’r cylched stêm-dŵr.

Pam mae’r cwmni eisiau newid y tanwydd?

Ni fydd modd i’r safle weithredu trwy losgi glo y tu hwnt i fis Mehefin 2020, heb i’r drwydded gael ei haddasu a heb i’r safle gael ei uwchraddio er mwyn iddo fodloni deddfwriaeth  amgylcheddol newydd.

Mater i’r Gweithredwr yw gweithrediad parhaus y safle a’r dewis o danwydd amgen. Mae sawl gorsaf bŵer glo arall yn y DU wedi troi at hylosgi biomas, naill ai ar ei ben ei hun neu ochr yn ochr â glo. Yn yr achos hwn, caiff y tanwydd arfaethedig ei wneud o wastraff nad yw’n beryglus, na ellir ei ailgylchu, ac a fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi neu i gyfleusterau llosgi o fath arall. Bydd oddeutu 50% ohono’n blastig ac oddeutu 50% ohono’n ddeunydd biogenig – papur a chardbord yn bennaf. Os caiff yr amrywiad ei ganiatáu, dim ond y tanwydd a nodir yn y cais (sef tanwydd sy’n deillio o wastraff) y caniateir ei ddefnyddio.

Byddai’r amrywiad arfaethedig yn ymestyn oes y safle. Oni chaiff y safle ei addasu, deellir y byddai’n debygol o gael ei gau’n barhaol.

Ai llosgydd yw hwn? A fydd yn llosgi gwastraff? Ac os felly, faint?

Caiff y tanwydd newydd ei ddosbarthu fel gwastraff dan reoliadau gwastraff, gan ei fod yn tarddu o wastraff. Mae’r cais yn nodi y bydd y peledi tanwydd hyn yn cael eu gwneud yn rhywle arall, o wastraff na ellir ei ailgylchu.

Mae’r cais yn pwysleisio y bydd y gwastraff yn cael ei weithgynhyrchu mewn modd a fydd yn bodloni manylebau llym, ac y bydd yn cael ei gynllunio’n benodol i sicrhau ei fod yn addas i’w hylosgi yn y cyfleuster. Bydd yn cael ei ddidoli er mwyn cael gwared â deunyddiau nad ydynt yn addas i’w hylosgi ar y safle.

Mae gwahaniaethau technegol sylweddol yn perthyn i’r tanwydd a’r safle hylosgi o gymharu â llosgydd gwastraff trefol arferol. Nid yw’r safle’n cynnig llosgi gwastraff diwydiannol, masnachol, neu drefol nad yw wedi’i ddidoli. Os caiff yr amrywiad ei ganiatáu, dim ond y tanwydd a nodir yn y cais (sef tanwydd sy’n deillio o wastraff) y caniateir ei ddefnyddio.

Efallai y bydd hyd at 1% o’r tanwydd yn fiomas, sydd eisoes yn cael ei ganiatáu dan y drwydded bresennol.

Er mwyn cynhyrchu’r trydan a nodir, disgwylir i’r safle losgi oddeutu 875,000 tunnell o danwydd sy’n deillio o wastraff bob blwyddyn, a nodir uchafswm o 1,093,000 tunnell y flwyddyn yn y cais.

Faint o wastraff/tanwydd a gaiff ei storio ar y safle ar unrhyw adeg benodol?

Bydd y peledi tanwydd yn cael eu storio mewn seilos – ni fydd unrhyw wastraff heb ei brosesu yn cael ei storio ar y safle, a rhaid i’r peledi gael eu storio’n ofalus er mwyn eu cadw’n sych a’u rhwystro rhag dirywio. 

Bydd pedwar prif seilo yn storio oddeutu 10,000 tunnell o wastraff yr un, gyda dau seilo llai (“seilos dydd” yn nes at y safle hylosgi) yn dal 1,600 tunnell yr un.

A allai’r tanwydd/gwastraff arwain at berygl tân neu broblemau amgylcheddol eraill?

Bydd y seilos, y dderbynfa a’r systemau cludo yn amgaeedig, a bydd mesurau ar waith i atal llwch rhag gwasgaru. Bydd systemau atal tân, canfod tân a diffodd tân i’w cael. Ni ragwelir y bydd y peledi’n achosi arogleuon drwg. 

Gall nifer o danwyddau sydd â chynnwys biolegol “hunangynhesu”, h.y. byddant yn cynhesu oherwydd gweithgarwch biolegol, yn enwedig pan fyddant yn wlyb. Dyna pam mae angen seilos sych pwrpasol a chanddynt fesurau atal tân. 

Fe fydd yna ardal gwarantin y gellir ei defnyddio mewn argyfwng (yn cynnwys tanwydd poeth/sy’n mudlosgi), lle gellir storio gwastraff y tu allan dros dro, cyn iddo gael ei oeri a’i symud oddi ar y safle i’w waredu.

Sut y bydd y deunyddiau’n cael eu cludo yn ôl a blaen i’r safle?

Mae effaith traffig ar ffyrdd y tu allan i’r ardal drwyddedig yn perthyn i gylch gwaith yr Awdurdod Cynllunio Lleol, ac nid yw’n ymwneud â Thrwydded Amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Mae’r cais yn nodi mai’r prif ddull o gludo’r tanwydd fydd rheilffyrdd, fel yn achos y glo yn y gorffennol. Fe fydd yna system wrth gefn ar gyfer cludo’r tanwydd, sef cerbydau ffyrdd. Bydd deunyddiau crai o fath arall, ynghyd â biomas a lludw a fydd yn gadael y safle, yn cael eu cludo ar y ffyrdd.

Beth fydd yr allyriadau carbon deuocsid yn sgil newid y tanwydd?

Mae hylosgi unrhyw danwydd sy’n cynnwys carbon yn rhyddhau carbon deuocsid. 

Yn y cais, amcangyfrifir y bydd yr allyriadau carbon deuocsid a gaiff eu cynhyrchu trwy hylosgi’r peledi tanwydd arfaethedig oddeutu 1,550,000 tunnell y flwyddyn. Daw hanner hyn o ffynonellau adnewyddadwy, sy’n golygu y byddai potensial cynhesu byd-eang y tanwydd ffosil yn hanner y ffigur hwn. 

Yn 2013, llosgodd yr orsaf bŵer glo 600,000 tunnell o lo, gan gynhyrchu oddeutu 1,330,000 tunnell o garbon deuocsid, y cwbl yn anadnewyddadwy. Felly, bydd hylosgi’r peledi tanwydd yn arwain at allyriadau carbon deuocsid tanwydd ffosil sy’n llai na dwy ran o dair y gweithrediad llosgi glo blaenorol, er bod cyfanswm yr allyriadau carbon deuocsid yn debyg.

Sut y mae’r tanwydd amgen arfaethedig yn cymharu â glo?

Mae’r cais yn nodi’r canlynol: “the feedstock is waste with consistent characteristics that is comparable to a virgin fuel (coal)”. 

Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynd ati eto i lunio cymhariaeth fanwl o’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng glo a’r tanwydd arfaethedig, a bydd hyn yn rhan o’n penderfyniad. Bydd y gwaith hwn yn ystyried y gwahaniaethau mewn allyriadau a ryddheir i’r aer, a gweddillion solet fel lludw (maint a chyfansoddiad). 

Os rhoddir caniatâd i losgi tanwydd amgen, bydd yn rhaid i’r safle fodloni terfynau allyriadau ar gyfer yr holl lygryddion a gaiff eu rhyddhau i’r aer. Bydd y rhain yr un fath, neu’n is o lawer mewn llawer o achosion, na’r terfynau presennol wrth losgi glo.

Beth am y lludw a’r gweddillion eraill a gaiff eu cynhyrchu?

Mae’r cais yn nodi: “The type and quantities of these residues are not expected to change significantly from those already permitted taking into account that only two units will be re-energised rather than all three”. Mae’r cais yn rhagweld y cynhyrchir oddeutu 27,600 tunnell y flwyddyn o ludw gwaelod llosgydd a lludw boeler. Bydd y lludw hwn yn cael ei anfon i gyfleuster oddi ar y safle, a disgwylir iddo gael ei ailddefnyddio ar ffurf agregau. Rhagwelir y bydd yna 110,500 tunnell y flwyddyn o Weddillion Rheoli Llygredd Aer a Lludw. Bydd modd trin y rhain oddi ar y safle, a bydd ymdrech i ddod o hyd i gyfleoedd i’w hailddefnyddio. Ond disgwylir y bydd modd gwaredu’r deunydd hwn yn ddiogel mewn safleoedd tirlenwi.

Ble y gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cais?

Gallwch ddod o hyd i’r holl ddogfennau sydd ar gael sy’n gysylltiedig â’r cais drwy ein cofrestr gyhoeddus ar-lein.

 

Rhif y drwydded bresennol yw LP3131SW a’r rhif amrywio yw PAN-008534.

Pam na allaf gael mynediad at ddogfennau sydd ar y gofrestr gyhoeddus ar-lein?

Efallai y bydd yn rhaid i chi lawrlwytho rhaglenni meddalwedd i weld rhai dogfennau ar ein system ar-lein – er enghraifft, os nad yw eich system e-bost yn cydweddu ag Outlook. 

Os nad ydych eisiau gwneud hyn, neu os oes arnoch angen dogfen mewn fformat gwahanol neu fformat mwy hygyrch, cofiwch gysylltu â ni.

Pa ddogfennau y dylwn eu darllen ar y gofrestr gyhoeddus ar-lein?

Mae’r holl wybodaeth a gedwir ar y gofrestr gyhoeddus ar-lein, gan gynnwys gohebiaeth dan gyfeirnodau “LP3131SW” a “PAN-008534”, yn berthnasol i’r cais am amrywiad. 

Bydd unrhyw ddogfennau diwygiedig a gyflwynir gan yr ymgeisydd yn cael eu cadw ar y gofrestr gyhoeddus ar-lein, yn unol â Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, felly efallai y bydd yna fersiynau gwreiddiol a fersiynau diweddarach o rai dogfennau.

Sut ydych chi wedi codi ymwybyddiaeth o’r cais?

Ar 26 Mawrth 2020 fe wnaethom gyhoeddi datganiad i’r wasg leol er mwyn rhoi gwybod i’r cyhoedd am yr ymgynghoriad; a sut i ymateb. 

Hefyd, fe wnaethom gyhoeddi negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhoi gwybod i’r cyhoedd am y cais, yr ymgynghoriad a sut i ymateb. 

Ymhellach, aethom ati i hysbysebu’r ymgynghoriad ar ein gwefan. 

Mae profiad blaenorol yn dangos mai dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o hysbysu’r gymuned leol. 

I gael mwy o wybodaeth, darllenwch ein datganiad cyfranogiad cyhoeddus.

 pha sefydliadau ydych chi wedi ymgynghori?

Rydym wedi ymgynghori â’r sefydliadau canlynol:

  • Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
  • Comisiynwyr Harbwr Casnewydd
  • Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • Cyngor Casnewydd (Yr Adran Gynllunio ac Adran Iechyd y Cyhoedd)
  •  Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)

Pwy arall ydych chi wedi’i hysbysu?

Rydym wedi hysbysu Llywodraeth Cymru a gwleidyddion lleol ynglŷn â’r ymgynghoriad.

Pa fath o bethau y byddwch yn eu hystyried wrth asesu cais y cwmni?

Caiff ein penderfyniadau o ran caniatáu neu wrthod trwydded eu diffinio gan ofynion cyfreithiol. Mae’n ofynnol i ni gyfiawnhau ein penderfyniad o fewn ffiniau’r terfynau cyfreithiol hyn. 

I gael gwybodaeth am yr hyn y dylem ei ystyried o fewn ein cylch gwaith, gweler ein datganiad cyfranogiad cyhoeddus.

Pa fath o bethau na allwch eu hystyried fel rhan o’r cais?

Fel uchod, gweler ein datganiad cyfranogiad cyhoeddus.

Sut y byddwch yn gwrando ar bryderon y gymuned leol?

Fel yr esbonnir uchod, caiff yr ymgynghoriad hwn ei gynnal ar ôl derbyn cais a gyflwynwyd yn briodol. 

Bydd sylwadau perthnasol yn cael eu hystyried. 

Darllenwch yr adran cylch gwaith rheoleiddio yn y datganiad cyfranogiad cyhoeddus.

Sut y gallaf ymateb i’r ymgynghoriad hwn?

Anfonwch e-bost at: 

permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

A fydd eich penderfyniad yn cael ei gyhoeddi ar gyfer y cyhoedd, ac a fydd yna gyfnod ar gyfer ymgynghori a herio cyn i’r adroddiad terfynol gael ei lunio?

Bydd. Rydym yn ymgynghori ar adegau penodol ac o fewn amserlenni penodol yn ystod ein proses benderfynu reoleiddiol, er mwyn rhoi cyfle i bobl a sefydliadau gyflwyno sylwadau a herio. 

Cynhelir cyfnod ymgynghori cychwynnol ar ôl i gais o’r math hwn gael ei dderbyn. Yna, ar ôl i ni wneud ein penderfyniad, byddwn yn ymgynghori drachefn er mwyn rhoi cyfle i bobl weld ein penderfyniad arfaethedig a sut y gwnaethom ddod i’r penderfyniad hwnnw. Bydd gan bobl a sefydliadau gyfle pellach i gyflwyno sylwadau ynghylch ein penderfyniad drafft, a’i herio, a byddwn yn ystyried y sylwadau hyn wrth wneud ein penderfyniad terfynol.

Sut y gallaf gysylltu â chi ynglŷn â materion amgylcheddol eraill?

Os hoffech roi gwybod am ddigwyddiad yn ymwneud â’r safle, cysylltwch â’n Canolfan Gyfathrebu Digwyddiadau ar 0300 065 3000. 

Ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn ymholiadau brys, anfonwch e-bost at enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffoniwch 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm)

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.