Ein hymateb i bandemig y coronafeirws
Newyddion ynglŷn â sut rydym yn rheoli ein gwasanaethau...
Am y tro ni fyddwn yn gofyn am ddatganiadau tynnu dŵr rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 tan y gwanwyn yn 2021.
Byddwn yn cysylltu â deiliaid trwyddedau yn uniongyrchol yn ystod gwanwyn 2021 i ofyn am ddatganiadau ar gyfer y ddau gyfnod hyn: o fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2020, a mis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021.
Dylech barhau i gofnodi data fel y nodir yn eich trwydded os yw'n ddiogel gwneud hynny, gan ddilyn y canllawiau diweddaraf ar ymbellhau cymdeithasol gan y Llywodraeth.
Os ydych wedi anfon eich datganiadau atom eisoes, bydd oedi cyn inni brosesu'r data hyn.