Ein hymateb i bandemig y coronafeirws
Newyddion ynglŷn â sut rydym yn rheoli ein gwasanaethau...
Mae'r nodyn polisi hwn yn cynnwys opsiynau y gellir eu hystyried mewn perthynas ag achosion o gaffael o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a hefyd, mewn egwyddor, yr opsiynau y gellid eu hystyried ar gyfer gweithgareddau masnachol ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru.
Wedi'u cwmpasu gan Reoliadau Contractau Cyhoeddus (PCR) 2015.
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu cyfres o Nodiadau Polisi Caffael Swyddfa'r Cabinet y gall awdurdodau contractio eu hystyried wrth ymateb i COVID-19:
Mae hyn yn ein helpu i ddarparu cymorth i'n cyflenwyr a sicrhau parhad gwasanaethau yn ystod ac ar ôl argyfwng y coronafeirws.
Byddwn yn ystyried opsiynau fesul achos ond yn ceisio mabwysiadu'r opsiwn â'r risg leiaf yn y lle cyntaf.
I wneud cais am y cymorth hwn, cysylltwch â procurement.enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Byddwn yn gallu cynnig cymorth gan ddefnyddio'r dulliau canlynol:
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer pobl sydd wedi cael budd o'r darpariaethau rhyddhad cyflenwyr a geir yn PPN 02/20 ‘Rhyddhad cyflenwyr oherwydd COVID-19'.
Mae'r nodyn cyngor yn seiliedig ar Nodyn Polisi Caffael 04/20 Llywodraeth y DU i sicrhau parhad gwasanaethau yn ystod ac ar ôl yr achosion o COVID-19, ond mae wedi'i deilwra ar gyfer Cymru fel y bo'n briodol.
Darllenwch y Nodyn Cyngor Caffael: Adfer a Phontio o COVID-19
Mae hwn yn rhoi opsiynau i ni amrywio cytundeb presennol drwy addasu contract.
Rhaid i’r newidiadau gydymffurfio â PCR 2015 a bod wedi'u cynnwys yn benodol yn Addasiadau i Gontractau (Rheoliad 72, PCR 2015). Byddwn yn ystyried opsiynau i naill ai ehangu, amrywio, atal neu derfynu contract fesul achos.
Darllenwch y nodiadau polisi caffael diweddaraf gan Swyddfa'r Cabinet
Mewn rhai amgylchiadau, gallem gynnig cymorth pellach gan ddefnyddio'r dulliau canlynol:
Lle bydd nwyddau a gwasanaethau naill ai wedi cael eu lleihau neu eu hatal dros dro, gallem barhau i dalu cyflenwyr 'sy'n wynebu risg' er mwyn sicrhau llif arian parod a pharhad y busnes. Gallai hyn gynnwys y sefyllfaoedd canlynol, er enghraifft:
I gymhwyso, dylai cyflenwyr gytuno i gadw cyfrifon agored a sicrhau bod data ar gostau ar gael i'r awdurdod contractio yn ystod y cyfnod hwn. Dylent barhau i dalu cyflogeion a throsglwyddo cyllid i lawr i'w hisgontractwyr.
Rhaid i'r cyflenwr baratoi cynnig taliad interim a'i ddarparu'n ysgrifenedig i ni, gan nodi manylion cynigion y cyflenwr i amrywio'r proffil talu a/neu delerau eraill y contract i gefnogi ei lif arian parod yn ystod y cyfnod rhyddhad COVID, gan gynnwys manylion ynghylch unrhyw strwythur taliad interim arfaethedig i'w roi ar waith, a allai gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):
Rydym yn annog pob un o'n lesddeiliaid i ystyried effaith bosibl COVID-19, yn cynnwys eu gallu i dalu rhent a thaliadau eraill.
Cyfeiriwch at y cyngor diweddaraf ar y pecyn o fesurau sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau, sy'n cynnwys gwybodaeth am yr holl gymorth sydd ar gael i fusnesau mewn perthynas â COVID-19 gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Ymdrinnir â rhyddhad rhent ar gyfer ein lesddeiliaid fesul achos er mwyn sicrhau bod ein lesddeiliaid yn cael eu trin yn deg ac yn cael eu cefnogi'n briodol lle y bo'n bosibl yn ystod amgylchiadau anodd iawn o’r fath. Os derbynnir cais am gymorth a lle mae caledi busnes yn amlwg, byddem yn asesu pob achos yn ôl ei haeddiant ei hun, gan gynnwys:
Anfonwch e-bost atom yn enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i drafod unrhyw risgiau sy'n dod i'r golwg a allai effeithio ar y telerau talu.