Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Ein hasesiad o gais Biomass UK No.2 Ltd am trwydded

Gwybodaeth am beth mae’r cyfleuster yn y Barri wedi'i drwyddedu i wneud, ac ein rôl yn y broses

Ein sefyllfa bresennol

Ar 7 Chwefror 2018, cyhoeddwyd ein bod wedi rhoi trwydded amgylcheddol i Biomass UK No 2 Ltd i weithredu cyfleuster nwyeiddio ar Woodham Road, Y Barri. 

Daw’r penderfyniad yn dilyn asesiad helaeth o gynlluniau'r cwmni, a nifer o ymgynghoriadau gyda phobl leol a chyrff proffesiynol, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. 

Mae'r cwmni wedi dangos y gallant gwrdd â holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, technolegol ac iechyd cyfraith y DU, Cymru ac Ewrop, felly nid oes gan CNC seiliau amddiffynadwy i wrthod y drwydded.

Mae copïau o ddogfen benderfyniad CNC, a'r amodau a osodwyd ar gyfer y drwydded ar gael i'w gweld. Mae'r amodau'n gosod terfynau cyfreithiol priodol ar gyfer pethau fel allyriadau o'r cyfleuster, ac yn pennu'r mathau o ddeunydd y gall ei brosesu, a sut mae'n storio gwastraff.

Mae'r amodau a osodwyd gennym yn y drwydded yn ei gwneud yn ofynnol i weithredu’r Technegau Gorau ar gael (BAT). Unwaith y bydd yn dechrau gweithredu, byddwn yn monitro gweithgarwch ar y safle i sicrhau eu bod yn parhau i weithio o fewn amodau’r caniatâd y cytunwyd arnynt. 

Gwaith cyn comisiynu a chomisiynu

Ers derbyn y drwydded, mae yna lawer o brofion wedi cael eu cynnal ar y safle i sicrhau fod cydrannau’r gwaith yn gweithio’n iawn a’u bod yn gallu cynhyrchu trydan. Ym mis Mawrth 2018 cynhaliwyd gwaith cyn comisiynu.  

Yn ystod y cyfnod hwn, cawsom nifer o gwynion yn ymwneud â llwch, arogleuon a sŵn. Wnaeth ein swyddogion ymchwilio’r rhain yn drylwyr a nodwyd sawl toriad yn amodau’r drwydded.  O ganlyniad, cafodd y cwmni rybudd ffurfiol yn unol â’n Polisi Gorfodi ac Erlyn, a’i gorfodi i gymryd camau i adfer y toriadau i’w atal rhag digwydd eto. 

Fel rhan o hyn, mae’r gweithredwr wedi cyflwyno mesurau i ostwng lefelau sŵn. Mae hyn yn cynnwys gosod gwyntyllau, ac ynysiad rhag sŵn.  Er mwyn ymchwilio ymhellach i’r cwynion ynghylch y llwch sy’n disgyn yn yr ardal, rydym wedi cael gafael ar gontractwyr lleol annibynnol, i wneud y gwaith o fonitro’r ardal am y chwe mis nesaf, er mwyn cadarnhau unrhyw broblemau dwst sydd yno, a cheisio dod o hyd i’r ffynonellau a’r achosion. 

Camau nesaf

Cyfeirir y cam nesaf, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, fel comisiynu oer ac mae’n golygu gwneud rhagor o brofion i sicrhau bod pob rhan yn gweithredu a gweithio yn ôl y disgwyl.  Ar hyn o bryd, nid yw hynny’n golygu defnyddio pren fel tanwydd. 

Bydd y gwyntyllau newydd osodwyd i leihau’r sŵn yn cael eu profi yn ystod y comisiynu oer, ac fe fyddwn yn asesu’r sŵn drwy gydol y broses er mwyn sicrhau nad ydynt yn fwy na’r lefelau derbyniol.  Byddwn yn asesu’r lefelau sŵn a gyflawnir er mwyn sicrhau nad ydynt yn mynd tu hwnt i’r rhai a nodir yng nghynllun rheoli sŵn y safle. 

Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, disgwyliwn i’r safle symud ymlaen o’r comisiynu oer i’r cyfnod comisiynu poeth. Bydd hyn y golygu cyflwyno pren yn raddol i’r weithfa i gychwyn y prif weithrediadau. Fe wneir y gwaith yn raddol er mwyn sicrhau bod y weithfa’n cael ei redeg yn effeithlon, yn effeithiol ac o fewn amodau’r drwydded. Ni fyddwn yn caniatáu i’r gweithgaredd gael ei gychwyn hyd nes byddwn yn fodlon gyda chanlyniadau monitro'r comisiynu oer.

Beth fydd y cyfleuster yn wneud pan fydd yn gweithredu’n llawn?

Mae'r datblygiad yn gyfleuster cynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd wedi’i gynllunio i adennill ynni o bren gwastraff cymysg a baratowyd ymlaen llaw drwy broses o'r enw nwyeiddio. Mae'r broses hon yn cynhyrchu nwy synthetig hylosg, a ddefnyddir wedyn i greu stêm a chynhyrchu trydan gan ddefnyddio tyrbin stêm. 

Yr enw technegol ar y broses nwyeiddio yw Triniaeth Thermol Pellach (ATT), a chaiff y broses hon ei dosbarthu fel cyd-losgi, o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.Mae ganddo'r gallu i gynhyrchu trydan adnewyddadwy gyda chapasiti o allbwn o hyd at 10MWe, a gallai brosesu hyd at 86,400 tunnell fetrig o bren gwastraff cymysg amheryglus a baratowyd ymlaen llaw bob blwyddyn. 

Fe'i cynlluniwyd i brosesu pren gwastraff cymysg wedi'i falu, o gartrefi a diwydiant, a fydd yn cynnwys eitemau fel paledi, paneli ffensys, cypyrddau ac ati. Caiff yr eitemau hyn eu torri’n ddarnau mân mewn man arall a'u cludo i'r safle er mwyn eu prosesu. Ni ellir ailgylchu'r pren hwn ar gyfer defnyddiau eraill gan ei fod yn ddeunydd o radd isel. Ni chaniateir i’r cyfleuster dderbyn pren gwastraff peryglus na llosgi gwastraff cyffredinol neu ddeunyddiau eraill y gellir eu hailgylchu.

Sut y byddwn yn rheoleiddio'r cyfleuster

Rydym yn rheoleiddio safleoedd diwydiannol mewn amryw o ffyrdd, gan ddefnyddio amodau'r drwydded er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth. 

Bydd hyn yn cynnwys hapwiriadau ac ymweliadau dirybudd, yn ogystal ag archwiliadau technegol manwl. Gall ein harchwiliadau ganolbwyntio ar bob agwedd o weithrediad y safle er mwyn sicrhau bod y safle’n cael ei weithredu mewn modd sy’n cwrdd â’r rheolaethau llym a nodir yn nhrwydded y safle. Bydd hyn yn cynnwys asesu canlyniadau monitro er mwyn mesur perfformiad y cyfleuster. 

Mae’n angenrheidiol i'r gweithredwyr hefyd fonitro’u hallyriadau i’r aer yn barhaus ac yn rheolaidd, a rhoi'r canlyniadau hynny i ni. Rydym yn sicrhau bod yr holl fonitro'n cael ei gynnal yn unol â safonau achrededig MCERTS er mwyn sicrhau hyder  

Rydym yn cymryd unrhyw achos o dorri trwydded o ddifrif, ac yn gweithredu'n gymesur ar sail yr effaith debygol. Gall hyn gynnwys diffyg cydymffurfiaeth wedi'i sgorio yn erbyn trwydded y gweithredwr, a all arwain at gosb ariannol. Mewn achosion mwy difrifol o dorri'r rheolau, rydym yn gweithredu'n unol â'n Polisi Gorfodi ac Erlyn.

 

Sut ydwyf yn rhoi gwybod am bryderon ynghylch gweithgaredd ar y safle?

Os ydych yn pryderu am lygredd o'r safle, cysylltwch â'n llinell gymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000.

 

Ble alla i ddarllen mwy?

Gallwch ddarllen mwy am drwydded y cyfleuster, a'r amodau a roddir ynddi yma.

 

 

 

Archwilio mwy

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.