Tyrchu mewn parthau arbennig yn The Gann

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyflwyno ‘parthau tyrchu’ a ‘pharthau dim tyrchu’ yn The Gann, Sir Benfro er mwyn gwarchod bioamrywiaeth y safle.
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yw The Gann, sydd wedi’i leoli oddi mewn i Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Sir Benfro Forol, a chaiff ei ddefnyddio’n helaeth i dyrchu am abwyd.
Ers peth amser ceir pryderon y gallai tyrchu ar raddfa fawr effeithio ar fioamrywiaeth The Gann.
Yn dilyn gwaith a wnaed mewn partneriaeth, efallai fod CNC bellach gam yn nes at reoli’r effeithiau hyn.
Nid oes angen trwydded i dyrchu at ddibenion hamdden, oherwydd gall pawb dyrchu am abwyd a ddefnyddir at ddibenion personol; ond mae tyrchwyr masnachol angen cael caniatâd gan y perchennog.
Mae’r problemau’n codi pan fydd tyrchwyr masnachol yn ceisio cymryd arnynt mai tyrchwyr hamdden ydynt, oherwydd mae’n anodd iawn gwahaniaethu rhwng y ddau.
Nid yw’r niwed amgylcheddol a ddaw yn sgil tyrchu direol o’r fath yn broblem unigryw i The Gann, felly rhaid i unrhyw strategaeth reoli ddelio â thyrchu masnachol a thyrchu hamdden mewn modd cyfartal.
Bu CNC yn ffodus yn yr ystyr fod Grŵp Awdurdodau Perthnasol ACA Sir Benfro Forol wedi llwyddo i ariannu adolygiad a fu’n ystyried astudiaethau achos ledled y DU.
Mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy o ran deall y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael inni a phwy sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb.
Trefnodd Sue Burton, Swyddog ACA Sir Benfro Forol, gyfres o gyfarfodydd lle y cytunodd y rhanddeiliaid i hollti’r traeth yn barthau ‘tyrchu’ a ‘dim tyrchu’.
Yn y pen draw, bydd yr arfer o gyfyngu ar gasglu abwyd i barthau arbennig angen cael is-ddeddf neu offeryn statudol i’w ategu. Hyd nes y rhoddir is-ddeddfau ar waith, bydd cod gwirfoddol yn cael ei ddefnyddio.
Meddai Chris Lawrence, Uwch-swyddog Cadwraeth yn CNC:
“Mae diogelu cynefinoedd o’r fath yn un o flaenoriaethau pwysicaf CNC.
“Caiff yr ardal ei defnyddio gan drigolion a busnesau lleol fel ei gilydd, felly mae’n bwysig inni warchod y cynefin lleol a’i fioamrywiaeth rhag gormod o dyrchu.”
“Bydd rhoi’r gwahanol barthau ar waith yn helpu i ddiogelu bioamrywiaeth The Gann ac annog y cynefin i adfer, tra’n parhau i ganiatáu gweithgareddau tyrchu hamdden a chynnal diwydiannau fel pysgota.”
Yn ystod haf 2015 cynhaliodd CNC adolygiad o’r dystiolaeth wyddonol a oedd ar gael, a chyda help gan bartneriaid aeth ati i ymchwilio i fywyd gwyllt The Gann, ar yr wyneb ac o fewn y gwaddodion.
Mae’r canlyniadau cynnar yn awgrymu bod y traeth is, tywodlyd yn cynnwys toreth o rywogaethau, gan gynnwys alga coch, peunlyngyr a phryfed genwair Lanice conchilega.
Ar y traeth mwdlyd/graeanog uchaf y caiff y rhan fwyaf o’r abwyd ei gasglu, ac yn y fan hon y cofnodwyd y lefelau isaf o rywogaethau.
Mae gwaith yn cael ei wneud i geisio darganfod y rheswm sydd wraidd hyn – pa un ai’r gweithgareddau tyrchu ar y safle yw’r rheswm, ynteu rhyw wahaniaeth naturiol oherwydd uchder y traeth.
Yn y dyfodol mae CNC yn gobeithio ailgynnal yr arolwg er mwyn sicrhau effeithlonrwydd y cod ymddygiad a sicrhau y bydd unrhyw gamau rheoli ychwanegol neu amgen yn cael eu seilio ar dystiolaeth gadarn.
Cafodd arwydd ei godi er mwyn tynnu sylw’r casglwyr abwyd at y cod newydd, ac mae CNC wedi dechrau monitro’r safle er mwyn sicrhau bod pobl yn dilyn y rheolau newydd.