Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwahodd pobl i ddigwyddiad ‘galw heibio’ cymunedol i ddarganfod mwy am y camau y mae’n ei gymryd i fynd i’r afael â chlefyd y llarwydd neu Phytophthora ramorum, yn Nyffryn Gwy.
Y llynedd, cwympodd y sefydliad oddeutu 80 hectar o goed llarwydd heintiedig yn yr ardal, ond mae arolygon diweddar wedi canfod bod oddeutu 300,000 o goed llarwydd newydd gael eu heintio, sy’n gorchuddio 270 hectar o’r goedwig.
Datgelodd arolygon y llynedd bod oddeutu 1.2 miliwn o goed llarwydd i gyd wedi eu heintio, oedd yn cyfrif am tua 4000 hectar o dir coedwig yn Ne Cymru.
Yn y digwyddiad hwn, bydd pobl leol hefyd yn cael cyfle i wneud cyfraniad i gynlluniau’r sefydliad ar gyfer y goedwigaeth i’r dyfodol, ac i drafod materion megis hamdden, tirwedd a’r amgylchedd.
Bydd partneriaid allweddol hefyd yn mynychu, gan gynnwys Heddlu Gwent, Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent.
Cynhelir y sesiynau galw heibio fel a ganlyn:
- Dydd Iau 6 Chwefror. Neuadd y Pentref, Narth 2:00 pm–7:00 pm
- Dydd Gwener 7 Chwefror, Neuadd y Pentref , Narth, 10:00 am–1:00 pm
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth newydd i reoli’r clefyd, sydd, mae’n debyg, wedi effeithio ar oddeutu chwe miliwn o goed mewn coetiroedd sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, ac sydd yng ngofal Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi clustnodi £2miliwn er mwyn mynd i’r afael â’r clefyd drwy gwympo coed mewn ardaloedd heintiedig a threialu triniaeth arloesol i chwistrellu coed heintiedig â chwynladdwr i rwystro lledaeniad pellach.
Mewn ardaloedd lle mae coed heintiedig yn cael eu cwympo, mae’n bwriadu ailblannu rhywogaethau newydd o goed i wneud coetiroedd y dyfodol yn fwy amrywiol, yn fwy gwydn i wrthsefyll clefydau ac yn lleoedd mwy atyniadol i ymweld â hwy.