Gwaith CNC yn mynd yn ei flaen yn sgîl y storm

Ar ôl penwythnos o law trwm a llifogydd a darodd Dde Orllewin Cymru yn ddrwg, mae'r gwaith clirio wedi dechrau.
I swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, mae hyn yn golygu archwilio amddiffynfeydd rhag llifogydd ac asedau eraill er mwyn asesu ac atgyweirio unrhyw ddifrod a achoswyd gan lefelau uchel o ddŵr mewn afonydd a chyfeintiau uchel o ddŵr.
Meddai Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Risg Llifogydd a Digwyddiadau:
"Rydym yn cydymdeimlo ag unrhyw un yr effeithiodd y llifogydd hyn a storm Callum arno. Mae'n ein hatgoffa yn anffodus o'r difrod y gall tywydd garw ei achosi.
"Er bod hyn wedi effeithio’n sylweddol ar rai cymunedau, i lawer roedd yr amddiffynfeydd llifogydd wedi gwneud eu gwaith ac wedi lleihau'r effeithiau gwaethaf."
Dros y penwythnos achosodd y storm i ddŵr lifo i 80 o adeiladau ar draws De-Orllewin Cymru gan aflonyddu ar fusnesau a chludiant drwy’r wlad i gyd.
Cyrhaeddodd Afon Teifi yn Llandysul ei lefel uchaf ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw yn 1971 ac roedd lefel Afon Tywi uwch Caerfyrddin ar ei uchaf ers 1987.
Roedd swyddogion CNC ar ddyletswydd ddydd a nos yn sicrhau bod strwythurau amddiffyn yn gadarn, yn gweithredu llifddorau, yn codi amddiffynfeydd dros dro ac yn clirio sgriniau sbwriel.
Yn Abergwili, yn Nyffryn Tywi, caewyd y llifddorau gan atal llifogydd er bod lefel y dŵr wedi codi i 180mm o ben y giât, ychydig yn llai na'r trothwy gwacáu mewn argyfwng o 150mm.
Ymwelodd mwy o bobl nag erioed â gwefan CNC i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion llifogydd. Edrychwyd ar dudalennau llifogydd CNC fwy na hanner miliwn o weithiau, cyn ac yn ystod Storm Callum, tra cyrhaeddodd y negeseuon rhybuddio a hysbysu fwy na 110,000 o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ychwanegodd Jeremy:
"Ar ôl unrhyw ddigwyddiad llifogydd mawr mae gwersi i'w dysgu ac nid yw Storm Callum yn eithriad, felly byddwn yn adolygu'r hyn a ddigwyddodd a sut y gwnaethom ymateb er mwyn nodi ym mhle y gellir gwneud gwelliannau. "
Fel sy'n arferol ar ôl unrhyw lifogydd, mae ein gweithwyr nawr allan yn archwilio ein hamddiffynfeydd i ganfod unrhyw ddifrod, ac i sicrhau eu bod yn gallu parhau i helpu i amddiffyn pobl ac eiddo."
"Nid dim ond ar y rhwydwaith amddiffyn rhag llifogydd y byddwn yn edrych, ond hefyd ar ein hymateb i ddigwyddiadau a'n rhybuddion a'n hysbysiadau cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad.
"Er bod effeithiau sylweddol wedi bod mewn rhai ardaloedd, yr arwyddion cyntaf yw bod yr elfennau hyn wedi gweithio'n dda.
"Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid llywodraeth leol a'r gwasanaethau brys i sicrhau ein bod yn parhau i leihau effeithiau digwyddiadau fel hyn pan fo hynny'n bosibl."