Rhybudd ynghylch llanwau mawr dros y penwythnos
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i bobl gymryd gofal ychwanegol ger yr arfordir y penwythnos hwn, oherwydd gallai llanwau mawr tymhorol arwain at amgylchiadau peryglus.
Mae llanwau mawr yn debygol o effeithio ar y rhan fwyaf o ardaloedd arfordirol, ond De Cymru – o Benrhyn Gŵyr hyd at Aber Afon Gwy – sydd fwyaf tebygol o ddioddef.
Gallai’r ardaloedd hyn weld llifogydd lleol ar ffyrdd arfordirol, yn ogystal â’r posibilrwydd o ddŵr yn tasgu dros bromenadau a phierau.
Disgwylir i’r llanwau mawr gyrraedd eu huchafbwynt fore a nos Sadwrn, cyn lleihau o Ddydd Sul ymlaen. Ond mae rhagolygon y tywydd ar gyfer Dydd Llun yn dweud y bydd hi’n dal i fod yn ansefydlog, a gallai cynnydd yng nghyflymder y gwynt arwain at fwy o amgylchiadau peryglus.
Mae Rhybuddion Llifogydd eisoes ar waith ar gyfer Crofty ar Benrhyn Gŵyr a hefyd ar gyfer Aber Afon Gwy yn Nhyndyrn a Chas-gwent. Yn ogystal, ceir nifer o Hysbysiadau Llifogydd llai difrifol ar hyd a lled y wlad.
Mae daroganwyr o CNC yn parhau i gadw golwg gofalus ar y llanw a’r tywydd, a byddant yn cyhoeddi mwy o rybuddion dros y penwythnos pe bai angen.
Ymhellach, mae staff gweithredol wedi mynd i ardaloedd sy’n dueddol o ddioddef llifogydd er mwyn cadw golwg am effeithiau posibl.
Cynghorir pobl i wrando ar y newyddion a’r adroddiadau tywydd diweddaraf, yn ogystal â sicrhau eu bod yn gwybod y diweddaraf am Hysbysiadau neu Rybuddion Llifogydd yn eu hardal drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188 neu edrych ar y dudalen hon.
Gellir cael y diweddaraf hefyd drwy ddilyn @natreswales ar Twitter.