Gwaith hanfodol Twyni Byw i gefnogi twyni Cynffig

Vipers Bugloss

Bydd y twyni sydd o bwys rhyngwladol yng Nghynffig yn cael hwb amserol fel rhan o waith prosiect cadwraeth pwysig i helpu i adfywio twyni tywod ledled Cymru.

Cyn bo hir, bydd prosiect Twyni Byw, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn dechrau gwaith i grafu ardaloedd o fewn llaciau’r twyni yng Ngwarchodfa Natur Cynffig ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y gwaith hwn yn cael gwared ar y llystyfiant presennol sy'n tyfu'n gyflym, gan greu cynefin tywod noeth sy'n hanfodol i oroesiad rhai o’r rhywogaethau arbenigol prinnaf yn nhwyni Cymru.

Bydd tîm y prosiect hefyd yn cael gwared ar brysgwydd, fel bedw a helyg, rhywogaethau a fydd, os na chânt eu rheoli, yn ffynnu mewn ardaloedd gwlyb ac yn ymledu ymhellach drwy'r twyni a chynefinoedd pwysig llaciau’r twyni a’r glaswelltir.

Dros yr 80 mlynedd diwethaf, mae tywod agored wedi diflannu i raddau helaeth o dwyni Cymru, ac yn ei le ceir glaswellt a phrysgwydd trwchus. Achoswyd y newid hwn gan ffactorau fel cyflwyno planhigion estron, lefelau is o bori, newid yn yr hinsawdd a llygredd aer. Wrth i'r twyni ddod yn fwy sefydlog a dechrau gordyfu, mae bywyd gwyllt prin wedi dirywio.

Mae'r prosiect wedi gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn CNC ac Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig i gynllunio'r holl waith yn drylwyr.

Dywedodd Laura Bowen, Swyddog Prosiect a Monitro De Twyni Byw:

"Mae Cynffig yn safle twyni tywod sydd o bwys rhyngwladol ac mae gennym raglen uchelgeisiol o waith wedi'i chynllunio i helpu i ail-greu cynefinoedd gwerthfawr sy'n gartref i rai o'n rhywogaethau prinnaf.
"Edrychwn ymlaen at gwblhau'r gwaith hwn dros y misoedd nesaf. Byddwn wedyn yn monitro ein gwaith i weld sut mae'r cynefinoedd sydd wedi'u hadfywio’n datblygu dros amser, gan alluogi rhywogaethau arbenigol y twyni i ffynnu a sicrhau bod twyni tywod Cynffig yn parhau i fod yn hafan i fywyd gwyllt am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd Brian Davies, ar ran Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig:

"Mae gwaith yr Ymddiriedolaeth yn canolbwyntio ar y camau hynny a fydd yn diogelu, gwella, cynnal a hyrwyddo lles y Warchodfa Natur. Rydym wedi bod yn falch iawn o fod yn rhan o'r prosiect hwn ac rydym eisoes yn gweld y bydd gwaith prosiect Twyni Byw yn cael effaith amlwg ar les y safle hwn sy'n werthfawr yn rhyngwladol."

Mae Twyni Byw yn adfer dros 2,400 hectar o dwyni tywod, ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle gwahanol yng Nghymru. Mae'r prosiect yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2022.

Bydd rhagor o waith gaeaf y prosiect Twyni Byw hefyd yn cael ei wneud ar wyth safle arall ledled Cymru er mwyn roi hwb pellach i'r cynefin arbennig hwn.