Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Tân na welwyd mo’i debyg yn dinistrio blynyddoedd o waith yng Nghoedwig Cwmcarn

Llun o ffordd goedwig wedi cau gyda choed a thir wedi'u llosgi yn y cefndir

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ystyried sut y gall adfer darnau mawr o goetir ar ôl i danau ddiffeithio Twmbarlwm yng nghoedwig Cwmcarn dros y tair wythnos diwethaf.

Cychwynnodd y tanau ar 13 Gorffennaf, ac maent wedi dinistrio hyd at 250 hectar o goetir, yr un maint yn fras â 250 o gaeau rygbi.

Mae hyn wedi arwain at niwed amgylcheddol enfawr ac mae wedi dinistrio degau o filoedd o goed a oedd newydd eu plannu, gan ddadwneud blynyddoedd o waith a buddsoddiad gan CNC.

Roedd ardaloedd mawr yn cael eu hailblannu gyda choed llydanddail brodorol a chonwydd ar gyfer cynhyrchu pren, yn dilyn gwaith cwympo coed ar raddfa fawr i daclo lledaeniad y clefyd llarwydd.

Cafodd hofrenyddion, drôns, peiriannau cloddio a thractorau eu defnyddio fel rhan o ymateb amlasiantaethol a oedd yn cynnwys CNC, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Heddlu Gwent.

Bu staff CNC yn gweithio am oriau maith yn torri strimynnau atal tân o amgylch yr ardaloedd dan sylw, gan gynorthwyo diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a fu’n taclo’r tân ei hun.

Erbyn hyn mae’r tân wedi’i ddiffodd ac mae staff CNC yn parhau i gadw golwg ar lecynnau llai o’r coetir sy’n dal i fudlosgi a defnyddio bêls gwair i rwystro dŵr ffo â lludw ynddo rhag llygru nentydd yr ardal.

Meddai Steve Morgan, Pennaeth Gweithrediadau De Ddwyrain Cymru yn CNC:

“Gall tanau gwyllt fod yn beryglus iawn i drigolion yr ardal, ein swyddogion, y diffoddwyr tân sy’n gorfod eu taclo, a bywyd gwyllt lleol.

“Gwyddom pa mor bwysig yw’r holl ardal i drigolion lleol sy’n ei defnyddio i ymlacio a gwneud ymarfer corf.

“Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi buddsoddi’n helaeth yn y gwaith o ailblannu llecynnau a oedd wedi’u cwympo, gan blannu coed llydanddail a chonwydd er mwyn adfer y coetir. Mae’r gwaith hwn wedi cael ei ddadwneud i gyd yn awr.

“Yn ôl pob tebyg, fe fyddai unrhyw fywyd gwyllt a oedd ar lwybr y tân wedi’i ladd ac fe fyddai eu cynefinoedd a’u ffynonellau bwyd wedi’u dinistrio. Fe allai poblogaethau rhai mathau o blanhigion ac anifeiliaid gymryd blynyddoedd i adfer.

“Diolch i ymdrechion diflino ein staff a’r asiantaethau eraill, mae’r tân bellach dan reolaeth.

“Ond mae’r digwyddiad wedi achosi niwed amgylcheddol parhaol yn ogystal â chael effaith economaidd enfawr ar fusnesau’r ardal, twristiaeth a’r pwrs cyhoeddus.

“Hefyd, hoffem ddweud pa mor ddiolchgar yw ein staff i drigolion yr ardal am eu cefnogaeth. Rydym wedi cael bwyd a llythyrau o gefnogaeth, ac fe ddaeth rhywun â glasbren derwen inni mewn potyn, hyd yn oed – rhywbeth a’n cyffyrddodd yn fawr.

“Mae’n dorcalonnus gweld cymaint o’r coetir newydd a blannwyd gennym yng Nghwmcarn wedi’i ddinistrio gan weithred ddifeddwl.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio’n galed dros ben i blannu cymysgedd o goed llydanddail a chonwydd i gymryd lle’r coetir a gollwyd oherwydd y clefyd.

“Byddwn yn parhau gyda’n gwaith, ond yn ddi-os mae’r tân hwn wedi arwain at gam enfawr yn ôl yn hanes coedwig Cwmcarn.

“Bydd y safle ar gau hyd nes y byddwn wedi archwilio’r llwybrau troed a’r llwybrau beicio i gyd, a byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe bai pobl yn cadw draw o’r ardal hyd nes y bydd yn ddiogel ac wedi ailagor.

“Hefyd, hoffem ddiolch i’r gymuned mewn rhyw ffordd a’i chynnwys yn y gwaith o blannu coetir newydd.

“Byddwn yn siarad gyda nhw cyn bo hir i drafod sut y gallwn wneud hyn.”

Yr haf hwn gwelwyd sawl tân glaswellt ar draws Cymru ac, ochr yn ochr â phartneriaid yn y Gwasanaethau Tân ac Achub a’r Heddlu, mae CNC yn annog pawb sydd â gwybodaeth am danau glaswellt i gysylltu ag 101, neu ffonio ‘Crimestoppers’ yn ddienw ar 0800 555111.

Dylai pawb sy’n gweld tân glaswellt, neu sy’n gweld rhywun yn cynnau tân glaswellt, ffonio 999 yn syth.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.