Tresmaswyr yn peryglu bywydau ar Afon Mwldan

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cymryd camau eithafol ar Afon Mwldan, Aberteifi, yn dilyn pryderon fod pobl yn rhoi eu bywydau yn y fantol trwy dresmasu a dringo un o’i chwlfertau.
Er gwaethaf arwyddion yn rhoi gwybod am y peryglon, yn ddiweddar gwelwyd lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos plant yn eu harddegau’n eistedd ar ben y strwythur concrit sydd â dibyn 5.3 metr i bwll dŵr dwfn islaw.
Ymhellach, mae swyddogion CNC wedi gweld â’u llygaid eu hunain dystiolaeth o dresmasu ar lan yr afon wrth i bobl geisio cael mynediad at y cwlfert yn anghyfreithlon.
Er mwyn cadw pobl yn ddiogel ac atal difrod i’r cwlfert, mae ffens 1.8 metr wedi’i chodi yn lle’r hen ffens. Y gobaith yw y bydd hon yn rhwystro pobl rhag dringo glan yr afon i fynd at y cwlfert, ond y bydd yn dal i alluogi’r staff cynnal a chadw i gael mynediad.
Mae caeadau cloadwy wedi’u gosod ar ddau dwll archwilio ar ôl i swyddogion weld darn o ffilm ar YouTube o blant yn sglefrfyrddio drwy’r cwlfert.
Meddai Peter Morgan, swyddog cymorth technegol yn CNC:
“Allwn ni ddim pwysleisio digon y peryglon y mae pobl ifanc yn eu hwynebu trwy gael mynediad at y cwlfert yn anghyfreithlon.
“Mae hyn nid yn unig yn rhoi eu bywydau nhw eu hunain yn y fantol, ond hefyd bywydau pobl eraill, gan gynnwys y gwasanaethau brys a fyddai’n cael eu galw pe bai damwain yn digwydd, a hefyd y gymuned sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd o Afon Mwldan.
“Gobeithio y bydd y camau diogelwch newydd yn rhwystro pobl rhag cael mynediad at y cwlfert ac yn atal damwain erchyll rhag digwydd.”
Mae’r cwlfert yn helpu CNC i reoli llif uchel yr afon yn ystod cyfnodau o law trwm, gan leihau’r perygl llifogydd i bobl ar hyd Afon Mwldan.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r cwlfert wedi cael ei fandaleiddio ar ôl i dresmaswyr dorri i mewn i’r ystafell reoli. Cafodd y falfiau ar gyfer rheoli llif yr afon a’r camera a oedd yn monitro lefel yr afon eu difrodi, a bu’n rhaid eu trwsio ar gost y trethdalwyr.