Y manteision o fwynhau awyr agored ardderchog Cymru!

Yn ôl arolwg newydd, mae mwynhau awyr agored bendigedig Cymru’n weithgaredd hynod boblogaidd. Ac nid pleser yn unig a gewch o’i fwynhau – gall hamdden awyr agored fod o fudd mawr i’n hiechyd ac i’r economi hefyd.
Mae canlyniadau Arolwg diweddaraf Hamdden Awyr Agored Cymru (2014), a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, newydd gael eu cyhoeddi, ac maent yn dangos bod cynifer â 93% o oedolion Cymru wedi ymweld â’r awyr agored o leiaf unwaith yn ystod y 12 mis diwethaf.
Meddai Sue Williams, Pennaeth Gwyddoniaeth Cymdeithasol i CNC:
“Mae’r arolwg yn rhoi darlun pendant inni o sut rydym, fel cenedl, yn treulio ein hamser hamdden, pa weithgareddau rydym yn cael y blas mwyaf arnynt, pam rydym yn eu gwneud, a’r lleoedd rydym wrth ein bodd yn ymweld â nhw.
“Yn bwysicach na dim, mae’n dangos y manteision sylweddol a all ddod i ran economi Cymru, a hefyd i’n hiechyd a’n lles, yn sgil hamdden awyr agored.”
Cafodd sampl cynrychiadol o oedolion sy’n byw yng Nghymru eu cyfweld fel rhan o’r arolwg. Mae’r arolwg yn ystyried gweithgareddau hamdden mewn amrywiaeth eang o leoedd, gan gynnwys mynyddoedd, ffermdiroedd, parciau lleol, afonydd, traethau a’r môr.
Cafodd mwy nag 19 o weithgareddau eu cynnwys, gan amrywio o gerdded mynyddoedd i bicnics, a chan ymdrin â gweithgareddau trefol a gwledig fel ei gilydd.
Ymhellach, mae’r arolwg yn cymharu’r data a gafwyd yn 2014 gyda’r arolygon a gynhaliwyd yn 2011 a 2008 er mwyn dod o hyd i newidiadau yn y ffordd rydym yn defnyddio’r awyr agored a’r manteision a ddaw yn sgil hynny.
Ychwanegodd Sue:
“Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored o unrhyw fath o fudd i’n hiechyd mewn sawl ffordd; felly, does ryfedd fod 68% o’r bobl a holwyd wedi dweud eu bod yn mynd i’r afael â’u gweithgareddau ar ddwyster canolig.
“Hefyd, dyma’r rheswm pwysicaf pam y mae pobl yn ymweld â’r awyr agored, a gwelwyd mai ‘iechyd ac ymarfer corff’ oedd y cymhelliant mwyaf cyffredin. O gerdded i feicio, mae’r arolwg yn dangos mai’r awyr agored yw ‘campfa’r bobl’.
Ac nid iechyd y genedl yn unig sy’n gwella’n sgil gweithgareddau awyr agored – mae ei sefyllfa ariannol hefyd yn cael hwb, gyda phobl sy’n byw yng Nghymru wedi gwario mwy na £5.6 biliwn ar ymweld â’r awyr agored – £12.74 ar bob ymweliad, ar gyfartaledd.
Dyma rai o gasgliadau eraill yr arolwg:
- Cerdded yw’r gweithgaredd a gaiff ei wneud yn fwyaf rheolaidd o hyd, gydag 83% o bobl yn nodi eu bod wedi mynd am dro yn y 4 wythnos flaenorol
- Mae gweithgareddau poblogaidd eraill yn cynnwys mynd i weld golygfeydd (43%), mynd â phlant i gaeau chwarae (35%) a gwylio bywyd gwyllt (27%)
- Mae gweithgareddau egnïol, fel rhedeg a beicio ar y ffordd, wedi cynyddu er 2008, ac maent yn dal i fod yn boblogaidd
- Parciau lleol yw’r gyrchfan fwyaf poblogaidd (16% o bob ymweliad), gyda choetiroedd neu goedwigoedd yn ail (15%)
- Iechyd ac ymarfer corff (23%) a/neu fynd â’r ci am dro (22%) yw’r cymhellion mwyaf cyffredin y sonnir amdanynt yn 2014
- Anabledd corfforol (29%) a rhesymau iechyd (21%) yw’r prif resymau pam na chymerodd pobl ran mewn gweithgareddau awyr agored yn ystod y 12 mis diwethaf
- Mewn gwrthgyferbyniad, dywedodd pobl fod prysurdeb neu ddiffyg amser (29%), neu dywydd garw (25%), wedi eu rhwystro rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn y 4 wythnos flaenorol
Am y tro cyntaf, mae’r arolwg hefyd yn datgelu’r hyn y mae pobl yn ei feddwl am yr amgylchedd a bioamrywiaeth – sef yr anifeiliaid a’r planhigion sy’n byw yng Nghymru.
Gofynnwyd i bobl a oeddent yn bryderus ynghylch dyfodol bioamrywiaeth Cymru, a dywedodd bron i hanner y rhai a holwyd (43%) eu bod yn eithaf pryderus neu’n bryderus iawn.
Ymhellach, soniodd yr arolwg am yr hyn y gellid ei wneud i geisio diogelu’r amgylchedd, yn cynnwys ailgylchu, garddio er budd bywyd gwyllt a gwirfoddoli.
Roedd mwyafrif y bobl a holwyd wedi mynd i’r afael â nifer o’r gweithgareddau beunyddiol, ond nifer fechan yn unig (12%) a oedd wedi mynd i’r afael â rhai o’r gweithgareddau sydd angen cyfraniad mwy sylweddol, fel gwneud gwaith gwirfoddol er budd yr amgylchedd.
Meddai Sue:
“Mae ein perthynas â’r amgylchedd yn gymhleth iawn, ac mae’r canlyniadau hyn yn ein helpu i ddeall sut rydym yn defnyddio’r adnodd gwych hwn.
“Rydym yn lwcus iawn o fyw mewn gwlad sydd ag adnoddau naturiol mor amrywiol a hygyrch, ac mae’r arolwg yn dangos bod yr awyr agored yn rhan bwysig o fywydau nifer ohonom.”
Am ragor o wybodaeth ewch at http://naturalresources.wales/our-evidence-and-reports/welsh-outdoor-recreation-survey/?lang=en