Rheoli Efwr Enfawr yn Afon Soch

Mae’r gwaith o ddifa rhywogaeth ymledol a niweidiol o afon ym Mhen Llŷn yn dangos arwyddion o lwyddiant.
Wedi’i ariannu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), dyma’r cam diweddara’ mewn cynllun tair blynedd i waredu’r Afon Soch o Efwr Enfawr, all beri problemau mawr i bobl ac i fywyd gwyllt.
Gall swm bychan o sudd y planhigyn beri i’r croen godi’n swigod trwy ei wneud yn fwy sensitif i olau haul.
Mae Efwr Enfawr hefyd yn cystadlu â, ac yn disodli, planhigion cynhenid, gan arwain at erydiad glannau afonydd a chynyddu’r perygl o lifogydd.
Dangosodd arolwg o Afon Soch fod Efwr Enfawr yn bresennol ar fwy na 2.5km (milltir a hanner) o’i glannau.
Dywedodd Bev Dyer, Swyddog Amgylchedd CNC yng Ngogledd Orllewin Cymru:
“Ar ddiwedd yr ail flwyddyn o gydweithio â ffermwyr lleol a thîm arbenigol i ddelio â natur niweidiol y planhigyn, rydym yn gweld y sefyllfa yn gwella.
“Er nad yw’n gyffredin iawn ym Mhrydain, mae’n ymledu’n gyflym hyd lannau afonydd. Gall un planhigyn gynhyrchu 30 - 50,000 o hadau, all aros yn y pridd am saith mlynedd.
“Ar y funud, nid yw Afon Soch yn cyrraedd mesurau Ewropeaidd ynglŷn â safon dŵr. Rydym yn disgwyl yn eiddgar am y cyfnod pan fydd hyn wedi newid, fel y gall bywyd gwyllt ffynnu ac y gall pobl fwynhau a chael budd o ganlyniad i’n rheolaeth o amgylchedd afonydd.”
Yn wreiddiol daw Efwr Enfawr o Dde Rwsia a Georgia, cafodd ei gyflwyno i’r DU gyntaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel planhigyn addurniadol. Gall ymledu ar raddfa gyflym iawn, gan gyrraedd dros dri metr o uchder.
Dros y blynyddoedd nesaf bydd y prosiect yn parhau i reoli ymlediad Efwr Enfawr, gan alluogi llystyfiant naturiol i ailsefydlu a thrwy hynny gynyddu bioamrywiaeth y cynefinoedd.
Mae’r gwaith yn cael ei wneud mewn partneriaeth â thîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn gan y contractwr lleol, Adrian Moore.