
Rydym yn cydweithio gyda'r gwasanaethau argyfwng i gynghori a monitro effaith y tân.
Meddai, Huwel Manley o Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Rydym yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân ac asiantaethau eraill i gynghori a monitro effaith y tân.
"Mae'n bwysig ein bod yn cadw cymunedau a'r amgylchedd yn ddiogel rhag niwed a llygredd, gall tanau fel hwn effeithio ar ansawdd aer lleol a llygru afonydd.
"Rydym yn cymryd camau gorfodi rheolaidd yn erbyn unigolion a busnesau sy'n llygru ac yn niweidio'r amgylchedd ac rydym wedi bod yn pryderu am y safle hwn ers peth amser.
"Yn ddiweddar fe wnaethom erlyn deiliaid blaenorol y safle ynglyn â'r gwastraff oedd wedi ei storio yn anghyfreithlon a rydym eisoes wedi dechrau ar y broses o ddefnyddio ein pwerau statudol i fynnu ei dynnu oddi ar y safle."