Gollyngiad bychan o olew wedi ei gynnwys yn Llyn Padarn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd camau i sicrhau fod llygredd yn Llyn Padarn, Llanberis yn effeithio cyn lleied ag sydd bosibl ar y safle.
Wrth gerdded ger y llyn yn Llanberis fore dydd Gwener (28 Hydref) sylwodd un o drigolion yr ardal ar rywbeth tebyg i olew ar wyneb y dŵr a ffoniodd linell ddigwyddiadau CNC ar 300 065 3000 i’w hysbysu.
Daeth staff CNC i’r safle i ymchwilio, a chanfod fod olew wedi gollwng i mewn i Afon Goch, isafon Llyn Padarn.
Bellach mae bŵm amsugnol wedi ei osod yn Afon Goch fel rhagofal i gynnwys a sicrhau fod yr olew yn effeithio cyn lleied ag sydd bosibl ar yr amgylchedd.
Nid oes unrhyw arwyddion o bysgod marw neu bysgod mewn trafferthion.
Mae CNC yn parhau i gynnal ymchwiliadau i geisio dod o hyd i ffynhonnell y llygredd.
Meddai Paula Harley, Rheolwr Gweithrediadau ar Ddyletswydd, Cyfoeth Naturiol Cymru
“Hoffem ddiolch yn fawr i’r rhai a roddodd wybod inni am y digwyddiad hwn gan ei fod yn bwysig delio â digwyddiad llygredd cyn gynted ag sydd bosibl.
“Mae Llyn Padarn yn gartref i rywogaethau amrywiol a gwerthfawr o blanhigion ac anifeiliaid ac mae’n gyrchfan boblogaidd i bobl ei mwynhau.
“Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y digwyddiad rhowch wybod am hyn ar ein llinell gymorth ar 0300 065 3000.”