Canllawiau Slyri i ffermwyr ar ôl y tywydd gwlyb

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi canllawiau dros dro i helpu ffermwyr reoli slyri yn dilyn y tywydd gwlyb diweddar.
Mae’r cyfnod hir o law yn llesteirio gwaith storio a gwasgaru slyri a wneir gan ffermwyr a chontractwyr.
Os bydd yn cael ei wasgaru dan amodau gwlyb iawn, bydd maetholion yn y slyri yn cael eu colli i raddau helaeth a gallai’r dŵr ffo achosi llygredd dŵr.
Fodd bynnag mae nifer o storfeydd ffermwyr bellach yn llawn ac mae’r canllawiau yn egluro’r ffordd orau isod o ddelio â’r sefyllfa.
Byddant yn cael eu cyhoeddi drwy undebau ffermio ac maent ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae’n rhoi cyngor ar ymarfer gorau a gofynion cyfreithiol i helpu ffermwyr ddelio â’r problemau a achosir gan storfeydd slyri llawn a thir dwrlawn.
Meddai Huwel Manley, Rheolwr Gweithrediadau’r Gorllewin, Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Rydym yn ymwybodol fod y cyfnod hir o dywydd gwlyb y gaeaf hwn wedi bod yn amser anodd i ffermwyr.
"Mae’r stormydd a’r glaw trwm dros nifer o wythnosau wedi golygu fod ganddynt storfeydd slyri llawn a chaeau dwrlawn sy’n anaddas ar gyfer gwasgaru slyri.
"Bydd y canllawiau hyn yn rhoi cyngor i ffermwyr ar sut i greu storfa ychwanegol tymor byr ac, os nad yw hynny’n opsiwn, sut i wasgaru slyri ac ar yr un pryd sicrhau cyn lleied o risg o lygredd ag sydd bosibl a bodloni canllawiau cyfreithiol."
Gall ffermwyr hefyd gysylltu â llinell Gofal Cwsmeriaid Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 i gael rhagor o gyngor.
Dylai unrhyw un sy’n pryderu ynghylch llygredd sy’n deillio o storio slyri ei riportio drwy ffonio llinell gymorth digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0800 807060.