Achosion o lygredd yn effeithio ar Geredigion dros y Pasg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio i ddau achos o lygredd yng Ngheredigion.
Galwyd swyddogion i un achos ger Llanbedr Pont Steffan nos Lun (2 Ebrill) pan gwympodd rhan o lagŵn slyri a oedd yn cynnwys slyri hylifol a dŵr budr.
Fodd bynnag, yn dilyn cyngor gan arbenigwyr o CNC, mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf o’r slyri wedi’i ddal cyn iddo achosi niwed sylweddol i’r amgylchedd lleol.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw arwydd o bysgod marw wedi’i ganfod.
Meddai Sue Byrne, Arweinydd Tîm Ceredigion, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae’r rhan fwyaf o’r slyri wedi’i gadw ar y tir, ond mae ein swyddogion wedi bod ar y safle ac wedi cymryd samplau o’r nant gerllaw.
“Rhoddodd y ffermwr wybod inni’n ddi-oed am y digwyddiad, ac roedd hyn yn golygu ein bod wedi gallu ymateb yn syth a helpu i atal hyn rhag troi’n ddigwyddiad mwy difrifol."
Mae CNC hefyd yn delio ag achos o lygredd sy’n effeithio ar nant sy’n llifo i Draeth Dolau, Ceinewydd.
Rhoddwyd gwybod i CNC am y digwyddiad hwn ddydd Gwener (30 Mawrth) ac mae yna adroddiadau fod slyri’n lledaenu yn yr ardal.
Oherwydd rhesymau’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, penderfynodd yr awdurdod lleol gau’r traeth.
Ychwanega Sue:
Mae ein hafonydd a’n dyfroedd ymdrochi’n gartref i fywyd gwyllt ac maent yn bwysig i’n heconomi leol.
“Mae digwyddiadau o’r fath yn destun cryn bryder inni ac rydym yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i ddilyn canllawiau arferion gorau ar gyfer storio a gwasgaru tail a dŵr budr yn ystod tywydd gwlyb parhaus.
“Pe bai rhywbeth yn mynd o’i le a phe bai slyri neu dail wedi mynd, neu mewn perygl o fynd, i ffos, nant neu afon, dylai ffermwyr roi gwybod inni’n syth trwy ffonio ein llinell argyfwng 24 awr ar 0300 065 3000.
“Po gyntaf y cawn wybod am unrhyw broblem, po leiaf fydd y niwed tebygol.”
Gellir dod o hyd i’r canllawiau arferion gorau ym Mhennod 5 y Cod Ymarfer Amaethyddol Da ar https://llyw.cymru/cod-ymarfer-amaethyddol-da