Mae cwmni, sy’n cynllunio cynllun ynni dŵr yng Ngogledd Cymru, wedi tynnu’n ôl ei geisiadau am drwyddedau amgylcheddol, sydd eu hangen i fwrw mlaen â’r cynllun.
Gall Cyfoeth Naturiol Cymru gadarnhau bod Snowdonia Pumped Hydro wedi tynnu’n ôl ei geisiadau am drwyddedau i ganiatau gweithgareddau gollwng dŵr ar gyfer y cynllun yng Nglyn Rhonwy ger Llanberis.
Heb y trwyddedau yma gan CNC, ni chaiff y cwmni adeiladu na gweithredu’r cynllun.
Mae CNC yn dweud nad oedd y cwmni wedi cyflwyno digon o wybodaeth ynglyn â gweithredu a rheoli’r cynllun o ddydd i ddydd a bod bylchau yn yr wybodaeth dechnegol.
Meddai Dylan Williams, Rheolwr Gweithrediadau yn CNC: “Mae Llyn Padarn yn ased naturiol pwysig a hanfodol i’r ardal. Mae’n bwysig i’r economi leol, i fywyd gwyllt ac i bobl.
“Dim ond os ydan ni’n gwbl fodlon bod cynlluniau cwmnïau’n profi y gallan nhw weithredu’n ddiogel, heb niweidio’r amgylchedd neu gymunedau lleol, y byddwn yn rhoi trwyddedau amgylcheddol.
“Ond, nid yw’r ymgeisydd wedi cyflwyno digon o wybodaeth inni wneud y penderfyniad hwnnw, ac felly mae’r ceisiadau wedi’u tynnu’n ôl.
“Pe baem yn gwneud penderfyniad ynghylch y ceisiadau ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd, mi fydden nhw wedi cael eu gwrthod.”
Bydd raid i Snowdonia Pumped Hydro ystyried rwan ydyn nhw am ail gyflwyno’r cais ai peidio.
Mae trwyddedau amgylcheddol yn elfennau ar wahân i’r broses gynllunio, a gaiff ei rheoli gan Gyngor Gwynedd a’r Arolygiaeth Gynllunio.
Er mwyn gweithredu’r math hwn o gyfleuster yn gyfreithlon, rhaid i gwmni gael trwyddedau amgylcheddol yn ogystal â chaniatâd cynllunio.