Clirio mwy na dwy dunnell o wastraff yng Nghwm Taf Fechan

Yn ddiweddar cymerodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ran mewn diwrnod glanhau yng Nghwm Taf Fechan, sef Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig coediog lle y cafodd mwy na dwy dunnell o wastraff ei gasglu.
Trefnwyd y digwyddiad gan Grŵp Cymunedol Pontsticill ddechrau mis Chwefror er mwyn helpu i daclo tipio anghyfreithlon yn yr ardal.
Yn ystod y diwrnod targedwyd y ddwy ardal a oedd yn dioddef waethaf yn sgil tipio anghyfreithlon, ond bu’n rhaid gadael pont y Pwll Glas oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch.
Yn ystod y dydd cliriwyd sawl math gwahanol o wastraff, gan gynnwys sbwriel, teiars ceir, setiau teledu, ffenestri, lleoedd tân, nodwyddau a darnau anifeiliaid.
Meddai Swyddog Amgylchedd ar ran CNC:
“Pleser i CNC yw cefnogi gwaith o’r fath, gan sicrhau amgylchedd cyfoethocach, a gaiff ei warchod, ar gyfer ein cymunedau lleol.”
“Bu’r digwyddiad yn llwyddiant mawr o ran gwneud yr ardal hardd hanesyddol ac eithriadol hon yn fwy atyniadol i’r cyhoedd, a bydd yn annog mwy o ymwelwyr i fwynhau Cwm Taf Fechan a’r atyniadau oddi amgylch.
“Gobeithio y gallwn gynorthwyo ein partneriaid mewn prosiectau yn y dyfodol a pharhau i wella’r modd y bydd cymunedau’n defnyddio ac yn cael mynediad i ardaloedd fel hon.”
Cynhaliwyd y digwyddiad gan aelodau’r gymuned leol, yr Ymddiriedolaeth Natur, Cadwch Gymru’n daclus, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a thimau Bioamrywiaeth, Glanhau a Threfni Taclus Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.