Ymgyrch yn targedu gweithgareddau anghyfreithlon posibl yng Nghasnewydd

Mewn ymgyrch amlasiantaethol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi uno â Heddlu Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd a’r Swyddfa Gartref i ymweld â safle sydd o ddiddordeb cyffredin iddynt yng Nghasnewydd.
Amheuir bod gweithgareddau anghyfreithlon yn digwydd ar y safle, yn ymwneud â throseddau amgylcheddol, cynllunio, trwyddedu a mewnfudo.
Casglwyd tystiolaeth ar y safle ac mae mwy nag un trywydd yn cael ei ddilyn.
Meddai llefarydd ar ran CNC:
“Ochr yn ochr â’n partneriaid, rydym eisiau gwneud yn siŵr na fydd gweithgareddau anghyfreithlon yn cael effaith negyddol ar ein cymunedau na’n hamgylchedd.
“Mae uno gyda’n gilydd yn y ffordd hon wedi ein galluogi i ymdrin â nifer o bryderon yn ymwneud â gweithgareddau ar y safle hwn i gyd ar unwaith, gan ddiogelu’r ardal ar gyfer y dyfodol.”