Arhoswch tra bod ein crynodeb o rybuddion llifogydd yn llwytho.
Rhybudd ynghylch llifogydd arfordirol
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl gymryd gofal gan allai tonnau mawr a llanw uchel achosi rhywfaint o lifogydd o amgylch arfordir gogledd Cymru.
Rhagwelir y bydd y tonnau mwyaf yn taro arfordiroedd Sir Ddinbych a Chonwy a gogledd a dwyrain Sir Fôn yn gynnar prynhawn ddydd Mawrth.
Dywedodd Rick Park, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC:
“Gallai’r tonnau mawr ac ewyn effeithio ar ffyrdd arfordirol, promenadau a rhai adeiladau yn gynnar prynhawn heddiw ac rydym yn cynghori pobl i gymryd gofal, yn enwedig o gwmpas llanw uchel ganol dydd. “
Mae rhybuddion llifogydd i’w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru https://naturalresources.wales/4043.aspx?lang=cy sy’n cael ei ddiweddaru bob 15 munud.
Hefyd gellid dod o hyd i wybodaeth a diweddariadau drwy ffonio llinell Floodline ar 0345 988 1188.