Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn mynd i fuddsoddi £2.6 miliwn mewn prosiectau arloesol i wella’r amgylchedd.
Bydd y prosiectau llwyddiannus yn helpu peth o’n bywyd gwyllt sydd o dan y mwyaf o fygythiad, gwella cynefinoedd a gwella mynediad at rai o dirweddau mwyaf trawiadol Cymru a gwneud gwelliannau sylweddol ar gyfer amgylchedd, pobl ac economi Cymru yn ystod y deunaw mis nesaf.
Bydd y prosiectau sy’n cael eu dewis yn helpu i wireddu’r heriau a nodwyd o dan y pedair thema o leihau’r risg a ddaw o beryglon amgylcheddol fel llifogydd a llygredd; gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth; gwella mynediad at yr awyr agored a defnyddio’r amgylchedd naturiol i gefnogi’r economi a datblygu sgiliau.
Dywedodd Rhian Jardine, Cadeirydd Bwrdd Ariannu Strategol CNC:
“Mae gwella’r amgylchedd naturiol, a’r bywyd gwyllt sy’n byw yno, yn hynod o bwysig i ni ac i Gymru, ei bywyd gwyllt ac ansawdd bywyd pobl.
“Rydyn ni wrth ein bodd â safon ac arloesedd y ceisiadau sydd wedi ein cyrraedd mewn ymateb i’r cyfle hwn am gyllid, a byddant yn ein helpu ni i gyflawni hynny.
“Mae ein dull comisiynu, ble’r ydyn ni’n gosod heriau ar gyfer ardaloedd penodol o Gymru, wedi creu diddordeb ar draws pob sector ac mae sawl un o’n partneriaid yn derbyn cyllid am y tro cyntaf gan gynnwys yr NFU ac Adran Dai Sir Ddinbych.”
Bydd prosiectau eleni’n cael eu mireinio yn ystod trafodaethau rhwng CNC a’r cynigwyr llwyddiannus dros yr wythnosau nesaf, cyn i gytundebau gael eu harwyddo yn ystod yr haf.
Ymysg y cynigion llwyddiannus mae:
- Gwreiddiau a Dŵr - prosiect gan Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren a Choed Cadw i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd buddiannau plannu coed sef gwella ansawdd yr aer, lleihau’r risg o lifogydd a chreu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt yn ardaloedd uchaf Hafren yn y Canolbarth. Byddan nhw’n gweithio gyda thirfeddianwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i blannu coetrych brodorol a lluosogi’r aethnen ddu
- Rhannu Gofodau – prosiect sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Tref y Gelli Gandryll i greu coridorau gwyrdd yn y dre ac o’i chwmpas yn ogystal â gosod porth gwefru ar gyfer ceir trydan. Bydd y coridorau hyn yn cysylltu cynefinoedd bywyd gwyllt pwysig ac yn mynd i’r afael â’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Bydd y porth gwefru ceir yn helpu lleihau allyriadau carbon. Bydd hefyd yn gwella’r 5 milltir o lwybrau troed hygyrch sy’n agos at y dref ac yn darparu buddiannau iechyd i bobl leol yn ogystal â gosod cerfluniau pren a byrddau dadansoddi ynglŷn â’r bywyd gwyllt sydd ar hyd y llwybr
- Rheoli Maetholion yn Wirfoddol – Caiff y prosiect hwn ei arwain gan yr NFU, mae’n brosiect cyffrous sy’n cynnig cydweithio ac arloesedd er mwyn datblygu dull gwirfoddol i reoli maetholion sy’n cael ei arwain gan ffermwyr. Nod y prosiect yw mynd i’r afael â llygredd amaethyddol wrth hefyd wella ansawdd dŵr a chefnogi poblogaethau pysgod lleol
- Natur a iechyd – menter ar y cyd yw hon gan wasanaethau cefn gwlad Sir Ddinbych ac adran dai Cyngor Sir Ddinbych. Bydd y prosiect yn hyrwyddo'r buddiannau lles sy'n gysylltiedig â bod allan yn yr amgylchedd naturiol. Bydd y cynllun, sydd wedi'i leoli mewn ardaloedd tai cymdeithasol a chanolfannau cymunedol, yn defnyddio presgripsiynu cymdeithasol amgylcheddol ac atgyfeiriadau gan feddygon teulu i annog cymunedau i gyrchu a mwynhau eu mannau gwyrdd lleol
- Gwrychoedd Gŵyr -Dangosodd adroddiad yn 2016 fod dros 800 km o wrychoedd Gŵyr mewn cyflwr gwael. Nôd y prosiect hwn yw gwrthdroi’r tueddiad hwnnw drwy hyfforddi tirfeddianwyr a gwirfoddolwyr i reoli ac adfer darnau o wrychoedd o fewn yr ardal o harddwch naturiol eithriadol. Y bwriad fydd creu perthi cyfan, parhaus a fydd yn gweithredu fel coridor bywyd gwyllt ar draws De-orllewin Gŵyr
Ychwangeodd Rhian Jardine:
“Mae gweithio gyda sefydliadau eraill yn hanfodol. Rydyn ni’n gwybod na allwn ni wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer amgylchedd Cymru ar ein pennau ein hunain.
"Mae angen inni wneud y gorau o'r adnoddau sydd gennym ni – mae angen dod o hyd i ffyrdd newydd, arloesol o sicrhau'r canlyniadau gorau i'r amgylchedd, i fywyd gwyllt a phobl Cymru."