
Mae swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn delio â llygredd slyri yn Nant Brân, ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion.
Rhoddwyd gwybod i CNC am y digwyddiad ddoe (dydd Iau, 22 Chwefror) a bu modd i’r swyddogion ar y safle weithio gyda’r ffermwr i roi stop ar y llygredd yn ei darddle.
Mae CNC yn ymchwilio i faint y digwyddiad a pha effaith y gallai fod wedi’i gael. Hyd yn hyn, fodd bynnag, nid ydym wedi cael unrhyw adroddiad ynghylch pysgod marw.
Meddai Dave Powell, Rheolwr Gweithrediadau Canolbarth Cymru yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae ein hafonydd yn lleoedd pwysig i bobl a bywyd gwyllt, felly mae’n bwysig delio ag achosion o lygredd cyn gynted ag y bo modd er mwyn lleihau niwed i’r amgylchedd.
“Hoffem ddiolch i’r rheini a roddodd wybod inni am yr achos hwn, gan ein galluogi i ymateb yn ddi-oed a’i atal rhag mynd yn ddigwyddiad mwy difrifol.
“Pe bai unrhyw un yn gweld arwyddion pellach o lygredd yn yr ardal, rydym yn eu hannog i roi gwybod inni trwy gysylltu â’n llinell argyfwng 24 awr ar 0300 065 3000.”