CNC yn ymateb i golled llaeth yn Llantrisant

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymweld â safle ym Mharc Busnes Llantrisant ar ôl i oddeutu 500 litr o laeth gael eu harllwys i ddraeniau gerllaw, gan effeithio afon Nant Mudduch.
Gwnaed CNC yn hysbys o’r golled y bore hwn, ac maent yn gweithio i’w reoli ar hyn o bryd.
Mae llaeth yn niweidiol i bysgod oherwydd mae’n lleihau’r ocsigen yn yr afon, gan achosi i bysgod farw.
Dywedodd Dai Walters, Arweinydd Tîm Rheoli Adnoddau Naturiol CNC:
“Un o’n prif amcanion yw amddiffyn afonydd Cymru a’r bywyd gwyllt sy’n byw ynddyn nhw ac o’u cwmpas.”
“Er nad yw llaeth efallai’n ymddangos yr un mor niweidiol â charthion neu lygredd eraill, mae ei effaith ar bysgod yn gallu bod yn aruthrol.
“Byddwn yn asesu’r effaith ar yr afon, a disgwylir i’r llaeth wanhau a chlirio erbyn diwedd y dydd”