CNC yn gwrthbrofi cyhuddiadau ynghylch eu record o safbwynt llygredd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dadlau’n gryf ynghylch cyhuddiadau a wnaed gan Afonydd Cymru a’r Angling Trust nad yw’n ‘addas i’r diben’ pan yw’n fater o reoli ac ymateb i ddigwyddiadau llygredd.
Mae’r corff amgylcheddol yn awyddus i sicrhau pobl fod diogelu’r amgylchedd rhag llygredd yn un o’i brif flaenoriaethau, ac y bydd bob amser yn cymryd camau i ymateb i ddigwyddiadau llygredd difrifol ac i ymchwilio iddynt.
Ac er nad yw nifer y digwyddiadau llygredd ar ffermydd yn cynyddu’n sylweddol flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae CNC yn cydnabod bod y nifer hwn yn rhy uchel, a bod angen lleihau nifer a maint digwyddiadau llygredd slyri.
Meddai Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu CNC:
“Rydym yn digalonni o weld ein gwaith yn cael ei ddarlunio yn y goleuni hwn. Mae ein staff yn gwneud gwaith rhagorol, ddydd ar ôl dydd mewn amgylchiadau heriol, a dylid cymeradwyo eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i amgylchedd Cymru.
“Nid yw datrys y broblem o lygredd amaethyddol afonydd yn ddibynnol ar CNC yn unig. Ni yw’r unig sefydliad sy’n gweithio i leihau lefel y llygredd sydd yn ein hafonydd a’n nentydd, ond rydym yn gwneud ein gorau.
“Erys y ffaith ein bod yn gweithio mewn amgylchiadau ariannol eithriadol o heriol, ac o ganlyniad, mae angen inni newid ein ffyrdd o weithio.
“Rydym yn gweithio’n agos â’r diwydiant amaethyddol fel y gallwn ei helpu i weithio’n fwy effeithlon, a chanfod problemau yn gynt pan fyddant yn digwydd er mwyn inni allu ymateb ar unwaith a chyfyngu’r niwed.
“Rydym yn gweithio’n galed iawn, gyda’n sefydliadau partner, i wneud pethau yn wahanol. Rydym yn defnyddio mwy ar yr adnoddau sydd ar gael gennym i gynghori ffermwyr, a fydd gobeithio, yn atal y mathau hyn o ddigwyddiadau rhag digwydd yn y lle cyntaf.”