
Bu'n gyfnod prysur i'r flwyddyn fusnes newydd i swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi bod yn cynnal patrolau trwydded gwialen ledled y wlad.
Manteisiodd y patrolau ar dywydd da'r gwanwyn, gan dreulio penwythnosau a gwyliau banc ym mis Mai yn ymweld â 28 o afonydd a physgodfeydd dŵr llonydd, lle gwnaethant wirio 275 o drwyddedau gwialen ac adrodd 16 genweirwyr am beidio â meddu ar drwydded.
Meddai Erin Smyth-Evans, Uwch-swyddog Troseddu Amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae patrolau fel hyn yn bwysig gan eu bod yn atgoffa genweirwyr fod angen trwydded gwialen arnynt ac i roi sicrwydd i ddeiliaid trwydded ein bod ni'n cymryd pob gweithgaredd anghyfreithlon ar ein hafonydd o ddifrif ac mae hyn yn arbennig o wir am bysgota anghyfreithlon.
"Mae trwyddedau gwialen yn ffynhonnell refeniw pwysig ar gyfer pysgodfeydd ac mae'r arian y maent yn ei godi yn cael ei fuddsoddi mewn gwelliannau i'n pysgodfeydd. Y llynedd, gwnaethom werthu rhyw 47,900 o drwyddedau i enweirwyr yng Nghymru."
Er mwyn cynorthwyo wrth roi hwb i'r gamp, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig trwyddedau gwialen am ddim i bobl ifanc rhwng 13 ac 16 oed a llynedd cyflwynodd drwydded gwialen dreigl sy'n para 365 diwrnod o’r dyddiad prynu - yn hytrach nag yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth waeth pa bryd y cafodd ei phrynu.
Yn ogystal, dim ond un drwydded sydd ei hangen ar gyfer y defnydd o dair gwialen ar gyfer pysgota cwrs arbenigol, yn hytrach na dwy – rhywbeth a gafodd ei groesawu gan enweirwyr carpiaid a genweirwyr arbenigol.
Gellir prynu trwyddedau yn gyflym ac yn hawdd ar-lein bellach ar "Get a Fishing License" ar GOV.UK, yn Swyddfa’r Post, neu dros y ffôn trwy ffonio Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0344 800 5386.
Gallwch gael dirwy o hyd at £2,500 am bysgota heb drwydded pysgota â gwialen.
Ychwanegodd Erin:
"Er bod ein patrolau yn rhwystro pysgota anghyfreithlon, mae ein hadnoddau'n gyfyngedig ac felly rydyn ni'n dibynnu'n gynyddol ar wybodaeth er mwyn ein helpu i fynd i'r afael â'r broblem hon.
"Os ydych chi'n gweld unrhyw weithgaredd amheus neu anghyfreithlon, adroddwch amdano trwy linell gymorth Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000."