Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain y ffordd wrth lanhau etifeddiaeth lygredig ein gorffennol diwydiannol

Yn aml, mae Cymru Fodern wedi talu pris uchel am ei gorffennol diwydiannol sydd wedi gadael ei greithiau ar draws y dirwedd.

Mae mwyngloddiau metel sy’n segur ers peth amser, a gynhyrchodd blwm, sinc a chopr ar un adeg, bellach yn ffynhonnell o lygredd difrifol y gall ei ollyngiadau gwenwynig gael effaith ddifrifol ar ansawdd dŵr yr ardal gyfagos.

Meddai Peter Stanley, arbenigwr technegol dŵr a thir halogedig Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae gan Gymru’r record na fyddai neb yn dymuno ei chael, o fod yn gartref i naw o’r 10 dalgylch mwyaf llygredig yn y DU drwy fwyngloddiau metel, ac yn gyffredinol mae ganddi fwy na 1300 o fwyngloddiau metel segur, sy’n effeithio ar dros 67 o gyrff dŵr sy’n cynnwys mwy na 600km o afonydd.

“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am fynd i'r afael â llygredd mwyngloddiau metel a thros y blynyddoedd rydym wedi ennill yr enw da am ddatblygu atebion arloesol a chost-effeithiol i ymdrin â'r mater.

“Mae dau o’n prosiectau arloesi mwyaf llwyddiannus yng Nghwm Rheidol ac yn Frongoch, ac yn ddiweddar, fe wnaethom gymryd y cyfle i rannu ein canlyniadau gyda’n partneriaid wrth fynd i'r afael â llygredd dŵr mwynglawdd.”

Y dyddiau hyn mae Cwm Rheidol yn ardal boblogaidd gyda thwristiaid am ei drenau stêm a barcutiaid coch, ond ar un adeg roedd yn gartref i fwyngloddiau yn cynhyrchu plwm a sinc. Daeth y cynhyrchiad i ben yn gynnar yn yr 20fed ganrif, ond fe deimlir ei effeithiau hyd heddiw.

Mae mynedfeydd dau fwynglawdd yn rhyddhau dŵr hynod asidig, oren sy’n cynnwys lefelau uchel o sinc, plwm a chadmiwm. Dros gyfnod o flwyddyn, mae wyth tunnell o fetelau yn cael eu rhyddhau i Afon Rheidol sy’n effeithio ar yr afon am 18km.

Eglurodd Peter:

“Mae’r mwynglawdd wedi ei leoli mewn dyffryn cul, serth, sy’n anaddas ar gyfer prosesau triniaeth traddodiadol sydd angen ardal sylweddol o dir.

“Felly, fe wnaeth KP2M Limited, sy’n masnachu fel Power & Water, cwmni o Abertawe sy’n darparu atebion a arweinir gan ymchwil i’r diwydiant dŵr, lwyddo gyda’u tendr i redeg prawf, gan ddefnyddio techneg sono-electrogemegol arloesol.

“Roedd canlyniadau labordy cychwynnol yn galonogol, ac mae ôl troed bach yr offer yn ei wneud yn arbennig o addas i leoliadau ucheldir garw, lle na fydd systemau pyllau goddefol traddodiadol yn ffitio.”

Dilynodd canlyniadau labordy annibynnol pellach a oedd yn cadarnhau llwyddiant y driniaeth, gyda samplau crai yn dangos bod 87% o fetelau yn cael eu dileu, tra bod samplau wedi’u hidlo’n cadarnhau bod 99.5% o fetelau wedi’u dileu.

Disgwylir i system raddfa fawr fel y prawf peilot, sy’n elwa o hidlo ychwanegol er mwyn lleihau’r sylwedd gronynnol mân, ostwng 98% neu fwy o lwyth metel.

Yn gorwedd i’r de-ddwyrain o Aberystwyth mae Frongoch, hen fwynglawdd plwm a sinc a weithredodd rhwng canol y 18fed ganrif a 1905.

Frongoch yw’r mwyaf o’r ddau safle ac mae eisoes wedi bod yn destun gwaith adfer helaeth, gan gynnwys ailgyfeirio a dargyfeirio nentydd, capio a thirlunio llawer o’r safle i gyfyngu ar ddiferion dŵr ac i leihau faint o ddŵr llygredig sy’n mynd i mewn yn is ar yr afonydd.

Mae’r gwaith wedi lleihau llygredd metelau yn ddramatig, ond mae crynodiadau dŵr ffo o’r safle yn dal i fod yn uchel.

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae profion ar y gweill bellach gyda chwmni Elentec sydd wedi'i leoli ym Mhorthaethwy, ac sy'n darparu atebion trin dŵr sy'n seiliedig ar ymchwil, gan ddefnyddio dull arloesol sy'n cynnwys uned electrogemeg gynhwysol gludadwy, sy'n effeithlon o ran ynni.

Mae'r uned yn ddelfrydol ar gyfer tirwedd ucheldirol neu'n addasadwy ar gyfer contractau hedfan i mewn, hedfan allan, dramor.

Dywedodd Peter:

“Mae dwy ffynhonnell lygredig iawn sy'n cyfrannu 3.8 tunnell y flwyddyn o sinc, plwm a chadmiwm i ffrwd Frongoch yn cael eu casglu a'u bwydo drwy'r siambrau electrod.

“Yna, mae’r metelau sy’n llygru yn cael eu gwahanu o'r dŵr trwy ddyddodiad mewn tanc tryloywol pwrpasol, gan ganiatáu bod y dŵr a gafodd ei drin yn cael ei ryddhau.

“Eto, mae canlyniadau rhagarweiniol yn galonogol, gan alluogi y gwneir y gorau o'r driniaeth.”

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn gweithio gyda'r prosiect Life Demine ym Mhrifysgol Abertawe i asesu'r defnydd o ynni adnewyddadwy wrth adfer metelau o waddodion.

Ychwanegodd Peter:

“Mae gan lwyddiant profion Cwm Rheidol a Frongoch y potensial i gynnig offer newydd i drin gollyngiadau niweidiol yn llwyddiannus, i Gyfoeth Naturiol Cymru ac eraill sydd â diddordeb mewn proses adfer dŵr mwyngloddiau metel a glanhau dyfroedd prosesau mwyngloddio metel.

“Ac nid yr amgylchedd yn unig a fydd yn cael budd o’r dechnoleg hon, gallai economi Cymru hefyd gael hwb wrth i’r cwmnïau sy’n rhan o’r gwaith hwn rannu'r dechnoleg â marchnadoedd tramor.”

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.