Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

CNC yn gweithredu is-ddeddfau brys i ddiogelu eogiaid

Mae is-ddeddfau brys a fydd yn diogelu eogiaid ar ôl i is-ddeddfau cyfredol ddod i ben ar 31 Rhagfyr wedi cael eu gwneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd yr is-ddeddfau eogiaid cenedlaethol cyfredol, sydd wedi bod ar waith ers 20 mlynedd i ddiogelu eogiaid sy'n ymfudo'n gynnar yn y gwanwyn, yn dod i ben ar 31 Rhagfyr.

Bydd yr is-ddeddfau brys newydd, a fydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2019, yn efelychu'r lefel gyfredol o ddiogelwch ar gyfer stociau eogiaid nes y gwneir penderfyniad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr ymchwiliad lleol ar gais Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno mesurau rheoli dalfeydd sy'n cynnig lefel uwch o ddiogelwch.

Dywedodd Peter Gough, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Ein bwriad oedd y byddai'r is-ddeddfau rheoli dalfeydd newydd ar waith erbyn hyn i ddiogelu stociau o eogiaid a brithyllod y môr. Fodd bynnag, nid yw hynny wedi digwydd a byddai diwedd yr is-ddeddfau eogiaid cenedlaethol cyfredol yn arwain at lefel is o ddiogelwch ar gyfer eogiaid sy'n ymfudo'n gynnar.

"Byddai'r lefelau diogelu ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr yn 2019, fel y mae pethau ar hyn o bryd, rywfaint yn is na'r lefelau y byddem yn eu hystyried yn angenrheidiol, ac ni ellir bod yn sicr ynghylch pryd y gallai is-ddeddfau rheoli dalfeydd newydd gael eu cyflwyno. Mae hyn yn peri risg bellach i stociau.

"I fynd i'r afael â'r sefyllfa hon, rydym yn gweithredu is-ddeddfau brys a fydd yn cynnal y lefel gyfredol o ddiogelwch ar gyfer ein stociau eogiaid a chadw rhywfaint o ddiogelwch ar gyfer brithyllod y môr."

Mae'r is-ddeddfau brys yn gwneud y canlynol yn ofynnol:

  • bod y tymor cau ar gyfer pysgota â rhwyd yn dod i ben ar 31 Mai, ar wahân i'r pysgodfeydd pysgota â rhwyd sy'n dibynnu ar frithyllod y môr (Afon Tywi, Afon Taf, Afon Hafren, Afon Teifi ac Afon Dyfi) ac sydd wedi bod yn gweithredu o dan ollyngiad – a fydd yn parhau;
  • bod yr holl eogiaid sy'n cael eu dal â rhwyd cyn 1 Mehefin yn cael eu rhyddhau;
  • bod yr holl eogiaid sy'n cael eu dal â gwialen cyn 16 Mehefin yn cael eu rhyddhau;
  • nad oes unrhyw bysgota am eogiaid ag abwyd cyn 16 Mehefin.

Bwriedir y bydd y mesurau rheoli hyn ar waith am 12 mis oni bai eu bod yn cael eu diddymu neu eu hestyn.

O ystyried yr amserlenni sy'n gysylltiedig, mae'n annhebygol iawn y bydd unrhyw is-ddeddfau rheoli dalfeydd newydd ar waith cyn dechrau tymhorau pysgota 2019 sy'n dechrau ar 1 Chwefror ar Afon Hafren uchaf, 3 Mawrth ar Afon Gwy, Afon Wysg ac Afon Dyfrdwy, a rhwng 20 Mawrth a 1 Ebrill mewn mannau eraill yng Nghymru. 

Ychwanegodd Peter:

"Mae eogiaid a brithyllod y môr Cymru yn bysgod sydd wir yn eiconig. Mae cyflwr truenus iawn y rhan fwyaf o'r stociau eogiaid a llawer o'r stociau brithyllod y môr yng Nghymru, a sut y gellir mynd i'r afael â'r mater hwn, wedi bod yn destun llawer o drafodaethau dros y tair blynedd diwethaf.

"Mae ein cynigion ar gyfer is-ddeddfau rheoli dalfeydd newydd yn seiliedig yn bennaf ar bysgota dal a rhyddhau gorfodol ar gyfer eogiaid, diwygiadau i dymhorau pysgota â rhwyd a mesurau rheoli dull i sicrhau bod y rhan fwyaf o'r pysgod sy'n cael eu rhyddhau yn goroesi ac yn silio.

"Nid hawdd oedd penderfynu galw am y newidiadau hyn, ond mae gennym bob hyder yn y dystiolaeth sydd wedi'n harwain i wneud y penderfyniad hwn.

"Rydym am weithio gyda'r cymunedau genweirio a physgota â rhwyd i ddiogelu ein pysgod a'n pysgodfeydd fel bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu eu mwynhau, a bydd cyflwyno mesurau rheoli newydd yn gam cadarnhaol i helpu i ddiogelu stociau.

“Yn y cyfamser, mae cadw'r lefel gyfredol o ddiogelwch drwy is-ddeddfau brys yn gam hanfodol"

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.