
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio i achos o lygredd sydd wedi lladd nifer o bysgod mewn rhan o Afon Ebwy ym Mharc Pilgrim, ym Mlaenau, Blaenau Gwent.
Aeth swyddogion CNC i ymweld â’r safle ddoe (27 Mehefin) yn dilyn yr adroddiad a chadarnhawyd fod yr afon yn lliw ‘llaethog’.
Nid yw’r swyddogion wedi llwyddo i ddarganfod tarddle’r llygredd hyd yma, ac maent yn gofyn i’r cyhoedd rannu unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth.
Dychwelodd y swyddogion i’r safle heddiw (28 Mehefin) i barhau gyda’r ymchwiliad, a darganfod bod yr afon yn rhedeg yn glir ond bod dros 50 o bysgod o feintiau amrywiol wedi marw yn yr afon.
Dywedodd Susan Fitzpatrick, Arweinydd Tîm Rheoli Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae cadw ein hafonydd yn lân er mwyn i bobl allu eu defnyddio a’u mwynhau mor bwysig i’n lles a’n economi, felly mae’n bwysig ein bod ni’n delio â llygredd cyn gynted â phosib.
“Rydym wedi cymryd samplau dŵr er mwyn ceisio adnabod y llygrydd, ac nid ydym yn credu ei fod yn gysylltiedig â charthion ar hyn o bryd. Ond, nid ydym wedi darganfod y tarddle eto, felly rydym yn gofyn am wybodaeth a allai fod o gymorth.
“Rydym hefyd wedi anfon biolegydd i ymchwilio’r effaith ar fywyd pryfed er mwyn darganfod beth yw maint y digwyddiad ac effaith y llygredd.
“Os down o hyd i’r tarddle, byddwn yn gwneud yn siŵr na fydd unrhyw lygredd pellach yn digwydd a byddwn yn cymryd unrhyw gamau gorfodi yn erbyn y rheiny sy’n gyfrifol, os bydd angen."
Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth a fyddai’n medru helpu i adnabod tarddle’r llygredd hwn, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru ar unwaith ar y llinell argyfwng 24 awr 0300 065 3000.