Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Mynydda Prydain (BMC) yn lansio gwasanaeth newydd ar gyfer rhai sy’n dringo yn y gaeaf, drwy ddarparu gwybodaeth fyw am dymereddau ar y tir a’r aer, i’w helpu i gynllunio eu hymweliadau yn fwy effeithiol.
Prosiect peilot yw’r Gwasanaeth Gwybodaeth Amodau Gaeaf Cymru, a fydd yn darparu gwybodaeth fyw am amodau yng Nghwm Idwal, Eryri.
Mae Cwm Idwal yn enwog am ei blanhigion a’i flodau prin, megis Lili’r Wyddfa, sy’n tyfu ar wyneb y creigiau. Cafodd yr ardal ei dynodi yn Warchodfa Natur Genedlaethol gyntaf Cymru ym 1954, a hynny, yn rhannol, i gydnabod pwysigrwydd y rhywogaethau prin hyn.
Bydd yr orsaf synhwyro o bell hon yn cynhyrchu data byw ac yn cofnodi, nid yn unig beth yw tymheredd yr aer ond hefyd tymheredd y dywarchen ar 5cm ac wyneb y ddaear ar 15 a 30 cm.
Mae’r wybodaeth hon wedyn yn cael ei hanfon gan signal radio i borthiant rhyngrwyd yn Ogwen, y ganolfan newydd i ymwelwyr a bydd yn ymddangos yn fyw ar Gronfa Ddata Mynediad Rhanbarthol Cyngor Mynydda Prydain (BMC).
Bydd mynyddwyr wedyn yn gallu defnyddio’r wybodaeth hon i ganfod a yw amodau yn addas mewn gwirionedd ar gyfer dringo yn y gaeaf yn y Cwm. Bydd hyn yn helpu i osgoi’r sefyllfa lle bydd pobl yn gyrru’r holl ffordd i Gwm Idwal, neu’n gwneud ymdrech i gyrraedd yno, ac wedyn, o bosibl yn cael eu temtio i ddefnyddio llwybrau lle nad yw’r amodau’n addas, ac o bosibl achosi niwed i’r llystyfiant.
Meddai Elfyn Jones, Cyngor Mynydda Prydain:
“Mae gan Gwm Idwal rai o’r clogwyni gorau i’w dringo yn y gaeaf yng Nghymru, ond hefyd mae’n hafan i blanhigion mynydd prin a bregus y gall dringwyr eu niweidio yn hawdd os nad ydynt wedi rhewi’n gyfan gwbl neu os nad ydynt yn cael eu hamddiffyn gan drwch da o eira neu rew.”
Meddai Joe Roberts, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Gydag oddeutu 125,000 o bobl yn ymweld â’r Cwm bob blwyddyn, mae’n ardal hynod o boblogaidd ar gyfer chwaraeon a hamdden, ac mae’n denu ymwelwyr sy’n rhoi hwb i’r economi leol. Yn ffodus, erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o ddringwyr y gaeaf yn ymwybodol iawn o’r angen i amharu gyn lleied ag sydd bosibl ar gynefinoedd sensitif a bregus a bydd y gwasanaeth hwn yn caniatáu iddynt wneud gwell penderfyniadau yn y dyfodol.”
Er mwyn cynnal y prosiect gweithiodd Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r BMC.