Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Prosiect newydd yn chwilio am wirfoddolwyr o Gymru er mwyn helpu i achub un o siarcod prinnaf y byd

Angel Shark

A all cymunedau lleol helpu i achub y maelgi (Angelshark), sydd mewn perygl difrifol?

Mewn gwaith cyffrous ar y cyd rhwng pysgotwyr a chadwraethwyr, mae prosiect newydd oddi ar arfordir Cymru yn lansio heddiw, 17 Gorffennaf 2018, sy'n canolbwyntio ar chwalu hyd bygythiadau a hanes y maelgi (Squatina squatina), sef rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol. 

Gofynnir i bysgotwyr, plymwyr, plant ysgol a'r rhai hynny dros 60 mlwydd oed – a phawb arall – gymryd rhan yn y prosiect arloesol newydd hwn sy'n anelu at ddiogelu'r rhywogaeth unigryw hon, a oedd i'w gweld yn helaeth yn nyfroedd Cymru ar un adeg. 

Bydd ‘Prosiect Maelgi: Cymru’, dan arweiniad yr elusen gadwraeth ryngwladol Cymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn cael ei gynnal ochr yn ochr â deuddeg sefydliad partner arall. Nod y prosiect yw rhoi sylw i un o siarcod prinnaf y byd, trwy weithio gyda phum cymuned arfordirol ledled Cymru. Bydd data a gasglwyd o atgofion cymunedau, ymchwil hanesyddol, gwybodaeth pysgotwyr ac arolygon gwyddoniaeth dinasyddion yn helpu i adeiladu dealltwriaeth well a chynllun cadwraeth ar gyfer y rhywogaeth. 

Dywedodd Joanna Barker, Rheolwr Prosiectau Morol a Dŵr Croyw yng Nghymdeithas Sŵolegol Llundain:

"Mae gennym gyfle cyffrous i ddeall a gwella statws maelgwn yng Nghymru, sydd o bosibl yn un o'r cadarnleoedd olaf ar gyfer y siarc anhygoel hwn. Rydym yn gobeithio y bydd ein dull o gyfuno cadwraeth a gwyddoniaeth gymdeithasol yn helpu i ddarparu buddion i boblogaeth y maelgwn, ond hefyd i'r cymunedau lleol rydym yn gweithio â nhw, sy'n dibynnu ar y môr ar gyfer eu bywoliaeth." 

Gellir dod o hyd i faelgwn (a oedd yn gyffredin ar hyd ochr orllewinol Ynysoedd Prydain ar un adeg) yn llithro ar draws gwely'r môr gyda'u hesgyll sy'n debyg i adenydd. Maen nhw'n tyfu hyd at tua dau fetr a hanner (oddeutu wyth troedfedd) ond nid ydynt yn peri bygythiad i bobl - maen nhw'n byw ar dywod neu fwd ar waelod y môr yn bennaf, gan ysglyfaethu ar bysgod bach a molysgiaid. 

Er bod eu niferoedd wedi disgyn yn helaeth ar draws dwyrain Cefnfor yr Iwerydd, y Môr Canoldir a'r Môr Du dros y ganrif ddiwethaf, mae adroddiadau ohonynt wedi cynyddu oddi ar arfordir Cymru, gan roi gobaith newydd i ddyfodol y rhywogaeth. 

Dywedodd Ben Wray, ecolegydd morol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r 12 o bysgotwyr rydym wedi gweithio â nhw yn ystod ein prosiect peilot y llynedd, a helpodd i lywio'r prosiect cyffrous ac arloesol newydd hwn. Mae achosion o ddal y siarc ar ddamwain yn dangos y gallai Bae Ceredigion yng nghanolbarth Cymru fod yn ardal bwysig ar gyfer y rhywogaeth. Bydd y data hwn yn hanfodol er mwyn adeiladu darlun mwy clir o statws ac ecoleg maelgwn yng Nghymru, yn ogystal â llywio Cynllun Gweithredu Maelgwn Cymru – yr ydym yn gobeithio y bydd yn helpu i arwain y prosiect at lwyddiant." 

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:

"Mae Cymru yn wlad falch ac eleni rydym ni'n dathlu ein Blwyddyn y Môr. Mae ein moroedd yn cefnogi cynefinoedd a rhywogaethau sy'n ysbrydoli'n fawr ac sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a byd-eang. 

“Rwy'n hynod falch o allu cefnogi'r prosiect hwn, sy'n dwyn ein cymunedau arfordirol, pysgotwyr, gwyddonwyr, grwpiau cadwraeth a'r llywodraeth ynghyd i gydweithio er mwyn darparu data y mae angen mawr amdano ynghylch y rhywogaeth hon sydd mewn perygl difrifol. Bydd y data hwn yn gwella ein dealltwriaeth o ecoleg a dosbarthiad y rhywogaeth, fel bod modd i ni warchod y rhywogaeth yn ein moroedd yn well ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n annog ein cymunedau, o'r ifanc i'n cenedlaethau hŷn, i ymgysylltu â'r prosiect newydd a chyffrous hwn a bod yn rhan ohono." 

Bydd y prosiect yn casglu data am faelgwn ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn pum ardal allweddol: gogledd Ynys Môn, Penrhyn Llŷn, Porthmadog i Aber-arth, Abergwaun i Aberdaugleddau, ac Abertawe i Borthcawl.

Gellir adrodd unrhyw achosion personol o weld maelgwn neu eu dal ar ddamwain trwy ddilyn y ddolen ganlynol: https://angelsharknetwork.com/#map. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y prosiect yma: https://angelsharknetwork.com/wales/. Gall y rhai hynny sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o'r prosiect gysylltu ag angelsharks@zsl.org i helpu i gadw un o'r siarcod prinnaf yn y byd.

ZSL, Welsh Government and NRW logos

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.