Rhybuddion llifogydd newydd ar gyfer cymunedau De Cymru
Bydd agos i 3500 o gartrefi a busnesau ar draws De Cymru ar eu helw o gael gwasanaeth rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim a gyflwynwyd heddiw gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Bydd y gwasanaeth newydd yn rhybuddio pobl yr ardal, o flaen llaw, am lifogydd dichonol, a hynny trwy ddull o’u dewis nhw: neges testun, galwad ffôn neu neges e-bost, er enghraifft.
Fe’i cyflwynwyd yn dilyn dechrau defnyddio mesuryddion lefel afon newydd a diweddariad i fodelu llifogydd, sydd wedi rhoi gwell gwybodaeth i’r sefydliad am sut mae afonydd yn ymateb yn ystod glaw trwm.
O heddiw ymlaen, bydd y gwasanaeth newydd ar gael yn yr ardaloedd canlynol:
- Cwm Tawe Isaf
- Baglan, Castell-nedd Port Talbot
- Dinas Powys, Bro Morgannwg
- Llanyrafon, Torfaen
- Pwll, Llanelli
Dywedodd llefarydd o Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Bydd cyflwyno gwasanaeth rhybuddion llifogydd ar gyfer y cymunedau hyn o gymorth i leddfu pryderon llawer o bobl yr ardal sydd ym mherygl llifogydd.
“Yn ogystal â chofrestru ar gyfer rhybuddion, rydym hefyd yn annog pobl i ddechrau cynllunio o flaen llaw, a meddwl sut y byddent yn delio â llifogydd, a’r hyn y byddai angen iddynt ei wneud.
“Ni allwn wastad atal llifogydd rhag digwydd, ond gallwn helpu cymunedau i baratoi ar eu cyfer, a darparu rhybuddion fel, pe digwyddai’r gwaethaf, eu bod â phopeth yn ei le, ac yn barod i ymateb.”
Gall pobl ganfod a yw eu heiddo ym mherygl llifogydd, ac a allant gael gwasanaeth rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim, trwy alw Floodline ar 0345 988 1188 neu fynd at y dudalen hon.