Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymateb i ddigwyddiad llygredd

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn delio â digwyddiad llygredd yn un o is-afonydd Afon Aeron ger Cilcennin yng Ngheredigion.
Cafwyd gwybod am y digwyddiad ddydd Gwener (19 Ebrill) a chadarnhaodd swyddogion a oedd ar y safle yn ystod y penwythnos fod nifer fechan o bysgod marw wedi'u canfod.
Mae swyddogion CNC wedi canfod ffynhonnell bosibl y llygredd ac maen nhw’n rhoi cyngor i atal hyn rhag digwydd eto.
Canfuwyd nad slyri nac elfen amaethyddol yw'r ffynhonnell. Mae swyddogion wedi cymryd samplau dŵr ac maen nhw’n parhau i ymchwilio i effaith y digwyddiad.
Meddai Callum Stone, Swyddog Amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Gwarchod afonydd Cymru, ynghyd â'u planhigion a'u bywyd gwyllt yw un o'n prif flaenoriaethau.
"Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y digwyddiad hwn neu os gwelwch bysgod yn dioddef, rhowch wybod inni drwy gysylltu â’n llinell gymorth ddigwyddiadau drwy ffonio 0300 065 3000."