Holi dynion ynglŷn â physgota anghyfreithlon
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn chwilio safle yn ardal Gilfach Goch ar ôl derbyn gwybodaeth am droseddau honedig cysylltiedig â physgodfeydd.
Gweithredwyd y gwarantau chwilio gyda chymorth Heddlu De Cymru.
Darganfuwyd sewin cyfan benywaidd ‘budr’ a darnau ohonynt o ganlyniad i’r chwiliad. Ystyr y gair ‘budr’ yma yw bod y pysgod yn y broses o silio neu ar fin silio.
Roedd un o’r pysgod a ddarganfuwyd yn cario rhwng oddeutu 4000 a 5000 o wyau a allasai fod wedi cyfrannu’n sylweddol at y genhedlaeth nesaf o bysgod.
Mae eogiaid a sewin yn mudo rhwng ardaloedd bwydo mewn cynefinoedd morol a dŵr croyw lle maent yn silio yn ystod misoedd y gaeaf.
Cafodd dau ŵr 27 a 57 oed eu riportio am drin pysgod mewn amgylchiadau amheus a chan fod ganddynt ‘bysgod budr’ yn eu meddiant o ganlyniad i’r archwiliad.
Meddai Erin Smyth, Uwch Swyddog Troseddu Amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae brithyll môr neu sewin, yn rhywogaethau eiconig yn ein hafonydd yng Nghymru ac maent yn denu pysgotwyr o bob cwr o’r byd – sy’n rhoi hwb cwbl angenrheidiol i economi cefn gwlad.
“Gan fod niferoedd y pysgod yn ein hafonydd eisoes yn isel, mae’n rhaid inni ofalu fod pob pysgodyn yn cael cyfle i silio a helpu i hybu poblogaethau’r dyfodol.
“Os oes gan unrhyw un wybodaeth o gwbl am bysgota anghyfreithlon neu bysgota y tu allan i’r tymor rydym yn eu hannog i roi gwybod inni drwy gysylltu â’n llinell gymorth 080 80 70 60 er mwy inni allu ymchwilio iddynt.”
Mae asesiadau stociau eogiaid CNC bellach yn dangos gostyngiad parhaus ledled Cymru, a bod stociau sewin hefyd yn achosi pryder. Mae 40% o’r 33 prif afon lle ceir sewin mewn perygl gan nad oes digon o bysgod yn dychwelyd i’w hardaloedd silio yno, i gynnal poblogaethau’r dyfodol.
Byddai bod ag eogiaid dŵr croyw neu sewin yn eich meddiant ar ôl 17 Hydref fwy na thebyg yn anghyfreithlon gan fod y tymor pysgota rhwng mis Mawrth a mis Hydref er mwyn caniatáu i’r pysgod hyn silio.
Nid yw’r tymor pysgota eogiaid a sewin yn ailgychwyn yng Nghymru tan fis Mawrth 2016. Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am bysgod sy’n cael eu dal yn ystod misoedd y gaeaf gysylltu â CNC drwy ddefnyddio’r rhif digwyddiad ar 0800 807060.