Arestio dynion ar amheuaeth o ddwyn eogiaid
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi arestio dau ddyn yn y Bontnewydd-ar-Wysg ar amheuaeth o ddwyn eogiaid o Afon Wysg.
Ar ôl derbyn gwybodaeth, bu swyddogion yn patrolio’r ardal gan lwyddo i ddarganfod dau ddyn gyda dingi a rhwyd dros yr afon.
Roedd y ddau ddyn (40 a 33 oed) yn ddynion lleol. Cawsant eu harestio ar y safle, a chyda cymorth Heddlu Gwent, aed â hwy i’r ddalfa i gael eu holi ymhellach.
Meddiannodd Swyddogion CNC yr offer, ynghyd â’r car a ddefnyddid gan y rhai a ddrwgdybir, i’w defnyddio fel tystiolaeth.
Meddai Rhys Hughes, Arweinydd Tîm Troseddau Amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae defnyddio rhwydau ar Afon Wysg yn cael ei wahardd am reswm da – i ddiogelu stociau pwysig o eogiaid sy’n defnyddio’r afon i fridio.
“Rydym yn ystyried potsio yn ddifrifol iawn a byddwn yn parhau i gydweithio â chymunedau lleol i ddelio â’r drosedd hon, sy’n fygythiad i’n bywyd gwyllt ac i’n hafonydd.
“Rydym yn argymell yn gryf bod unrhyw un sy’n gweld arwyddion o botsio anghyfreithlon yn rhoi gwybod am hynny ar unwaith drwy gysylltu â’n llinell frys - ddigwyddiadau 0800 807060.”