Adroddiad pwysig yn nodi ffyrdd o helpu Cymru i wrthsefyll llifogydd arfordirol yn well
Bydd adroddiad pwysig a gaiff ei gyhoeddi’n ddiweddarach heddiw (Dydd Mercher 30 Ebrill) gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflwyno 47 o argymhellion ar gyfer helpu Cymru i wrthsefyll llifogydd arfordirol yn well yn y dyfodol.
Comisiynwyd yr asesiad cynhwysfawr hwn gan Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, yn dilyn y stormydd arfordirol a gafwyd y gaeaf diwethaf – y rhai gwaethaf a welodd Cymru ers degawdau.
Mewn adroddiad a ryddhawyd yn gynharach eleni aethpwyd ati i asesu’r difrod a achoswyd gan y stormydd. Ar gyfer mwyafrif llethol arfordir Cymru, dangoswyd bod yr amddiffynfeydd a’r ffordd yr ymatebwyd i’r argyfwng wedi gweithio’n dda.
Fodd bynnag, mae’r adroddiad diweddaraf hwn yn nodi bod y stormydd a gafwyd ym mis Rhagfyr 2013 a dechrau mis Ionawr 2014 wedi profi i’r eithaf yr amddiffynfeydd, y modd yr ymatebwyd i’r argyfwng a gallu ardaloedd arfordirol Cymru i wrthsefyll llifogydd.
Gall stormydd o’r fath effeithio’n arw ar Gymru, ac mae’r rhagolygon ar gyfer newid hinsawdd yn dangos y bydd y perygl yn cynyddu oherwydd y tywydd mwy eithafol a ddaw yn y dyfodol.
Er mwyn wynebu’r sialensiau a ddaw yn sgil y perygl cynyddol hwn, mae’r asesiad yn canolbwyntio ar waith pwysig i helpu mwy fyth ar Gymru i wrthsefyll stormydd o’r fath.
Mae’r argymhellion yn yr adroddiad, a gasglwyd gyda help holl Awdurdodau Lleol arfordirol Cymru, yn cael eu rhestru mewn chwech o feysydd â blaenoriaeth: buddsoddi, gwybodaeth, egluro swyddogaethau, asesu sgiliau, cymorth i gymunedau, a datblygu cynlluniau lleol.
Ers stormydd y gaeaf, mae gweithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn trwsio amddiffynfeydd pwysig rhag llifogydd mewn mannau fel Porthcawl, Amroth a Niwgwl.
Mae’r gwaith hwn wedi golygu trwsio bwlch 50m mewn amddiffynfeydd yn Llanbedr yng Ngogledd Cymru – gwaith a gwblhawyd yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Yn ôl Jeremy Parr, Pennaeth Llifogydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Llwyddodd stormydd y gaeaf diwethaf i’n hatgoffa o’r difrod y gallan nhw ei wneud i’n cymunedau, ein heconomi a’n bywyd gwyllt.
“Dydy’r mathau yma o stormydd ddim yn digwydd yn aml; ond pan maen nhw’n digwydd, gall eu heffaith fod yn sylweddol.
"Er ein bod wedi ymdopi’n dda y tro yma, mae’r rhagolygon ar gyfer newid hinsawdd yn awgrymu ein bod yn debygol o weld mwy o dywydd o’r fath yn y dyfodol.
“Gobeithio y bydd yr adroddiad a’i argymhellion yn helpu asiantaethau, awdurdodau a chymunedau sydd mewn perygl i baratoi’n well eto pan fydd rhywbeth o’r fath yn digwydd yn y dyfodol.
"Rhaid inni helpu Cymru i wrthsefyll llifogydd arfordirol yn well a bod yn barod i ymateb i’r sialensiau a ddaw, er mwyn cadw ein cymunedau’n ddiogel.”
Dywedodd Alun Davies, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd:
“Er bod ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd wedi gweithio’n dda iawn yn ystod y stormydd diweddar, yn ddi-os mi achosodd y tywydd garw drafferthion a difrod sylweddol i nifer o gymunedau arfordirol.
“Mae tystiolaeth wyddonol yn awgrymu y bydd tywydd o’r fath yn digwydd yn amlach, felly mae’n hollbwysig inni barhau i weithio er mwyn sicrhau y gall ein harfordir wrthsefyll llifogydd yn well, ac er mwyn gwella ein hymateb i ddigwyddiadau o’r fath pan fyddan nhw’n digwydd.
“Hoffwn ddiolch i Cyfoeth Naturiol Cymru am eu gwaith caled wrth lunio’r adroddiad cynhwysfawr ac adeiladol yma.
"Yn awr, mi fydda i’n yn ystyried y casgliadau’n fanwl.
“Rydw i’n benderfynol o sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yn parhau i gydweithio’n agos er mwyn adeiladu arfordir i Gymru sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn well.
"Ac mi fydd casgliadau’r adroddiad yma’n hollbwysig wrth ein helpu i wneud hynny.
“Ers y stormydd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy na £10m er mwyn helpu’r cymunedau a ddioddefodd i ymadfer ar ôl y tywydd garw.
“Mae hyn yn cynnwys £7.2m i drwsio amddiffynfeydd a gafodd eu difrodi, £2.3m i helpu twristiaeth a busnesau, ac £855,000 i drwsio rhannau o Lwybr Arfordir Cymru a rhoi cyllid adfywio ychwanegol i Aberystwyth.”
Bydd copi dwyieithog o’r adroddiad ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn nes ymlaen heddiw.
Mae’r adroddiad yn argymell y dylid cymryd camau mewn chwe maes.
- Buddsoddi’n barhaus mewn mesurau i reoli perygl llifogydd
Buddsoddi mewn darogan llifogydd, rhybuddion, ymwybyddiaeth, ffyrdd o ymateb a ffyrdd o adfer; buddsoddi mewn amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd a chynnal a chadw’r rhai presennol; galw am well sicrwydd ynglŷn â’r cyllidebau sydd ar gael ar gyfer rheoli perygl llifogydd dros gyfnod mwy hirdymor - Gwell gwybodaeth am systemau amddiffyn rhag llifogydd
Gwybodaeth fwy cyflawn a chyson am amddiffynfeydd o bob math; gwybodaeth am eu cyflwr, yr ardaloedd y maent yn eu hamddiffyn a’r gwaith o’u cynnal a’u cadw; gan gynnwys gwybodaeth am amddiffynfeydd artiffisial a naturiol, a strwythurau lle mai eilbeth yn unig yw amddiffyn rhag llifogydd, hy promenadau - Gwell eglurhad o swyddogaethau a chyfrifoldebau asiantaethau ac awdurdodau
Eglurhad gwell i bobl a chymunedau o bwy sy’n gwneud beth; arwain at gyflawni’n fwy effeithlon ac effeithiol er budd cymunedau - Asesu sgiliau a gallu
Darganfod a oes bylchau i’w cael mewn awdurdodau rheoli perygl, ac ymhle – er enghraifft Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, gwasanaethau sy’n ymateb i argyfwng ac ati – er mwyn gwella’r modd y caiff peryglon llifogydd ac erydu arfordirol eu rheoli - Mwy o gymorth i gymunedau, er mwyn eu helpu i wrthsefyll llifogydd yn well
Cymunedau mwy ‘hunangynhaliol’ yn y dyfodol; galluogi cymunedau i ymateb i rybuddion llifogydd; galluogi cymunedau i reoli eu perygl llifogydd yn y dyfodol gyda chymorth gan asiantaethau perthnasol
Cyflwyno cynlluniau a ddatblygir yn lleol ar gyfer cymunedau arfordirol
Gwell dealltwriaeth o berygl llifogydd; galluogi cymunedau i addasu’n well i’r risg cynyddol yn sgil newid hinsawdd; bydd y cynlluniau hyn yn cael eu cefnogi’n genedlaethol ac yn gorwedd ochr yn ochr â Chynlluniau Rheoli Traethlin.