Cynhadledd bwysig yn taclo tynged y gylfinir yng Nghymru

Mae cynhadledd bwysig yn cael ei chynnal yng nghanolbarth Cymru er mwyn ceisio achub un o’r adar sydd dan y bygythiad mwyaf yng Nghymru.
Mae yna bryder cynyddol y bydd gylfinirod sy’n bridio yn diflannu o Gymru yn ystod y degawdau nesaf oni wneir rhywbeth i newid eu tynged.
Yn awr, bydd arbenigwyr ar adar, ffermwyr, cadwraethwyr, llunwyr polisïau a rheolwyr tir yn cyfarfod yn Llanfair-ym-Muallt ar 24 Ionawr i drafod dyfodol yr aderyn a sut y gellir ei helpu.
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw un o’r partneriaid sy’n cynnal y gynhadledd a fydd yn hyrwyddo’r gwaith caled sydd wedi’i wneud i warchod yr aderyn hwn.
Rhwng 1993 a 2006 gwelwyd gostyngiad o 81% yn nifer y gylfinirod yng Nghymru.
Amcangyfrifir yn awr mai rhyw 500 yn unig o barau bridio sydd ar ôl yng Nghymru.
Credir mai bridio aflwyddiannus a cholli safleoedd bridio sy’n bennaf gyfrifol am hyn.
Iolo Williams y cadwraethwr a fydd yn agor y gynhadledd, a bydd y mynychwyr yn cael gwybod sut y gellir helpu i newid tynged yr aderyn cyn belled â’n bod yn gweithredu’n ddi-oed.
Ar ôl cael cyfres o gyflwyniadau’n sôn am brosiectau’n ymwneud â gylfinirod fe fydd yna drafodaethau’n cael eu cynnal am waith cadwraeth ymarferol penodol.
Meddai Patrick Lindley, uwch adaregydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Gylfinirod yw un o’r prif flaenoriaethau o safbwynt gwarchod adar yn y DU, ac mae’n hollbwysig inni weithio gyda’n gilydd i warchod y boblogaeth sydd ar ôl a gwrthdroi’r dirywiad.
“Bydd y gynhadledd yn trafod gwaith adfer a wnaed yn y gorffennol a syniadau ymarferol a fydd yn ein helpu i ddatblygu camau gweithredu realistig ar gyfer cynyddu niferoedd yr adar eiconig yma yng Nghymru.”
Meddai Mary Colwell, y cyd-drefnydd:
“Mae’r gylfinir yn rhan annatod o dreftadaeth Cymru. Mae wedi ysbrydoli beirdd, cerddorion a llenorion Cymru ers cenedlaethau. ‘Galwad natur wyllt’ yw galwad yr aderyn hwn. Trasiedi fyddai caniatáu iddo ddiflannu a ninnau’n dal i fod ag amser i’w achub.”
Meddai Dave Smith, Uwch Swyddog Cadwraeth yr RSPB:
“Does dim amser i’w golli gyda’r gylfinir.
“Rhaid inni weithio gyda’n gilydd i ddatblygu a gweithredu camau ymarferol a fydd yn galluogi ffermwyr a pherchnogion tir i ddarparu cynefin ar gyfer bywyd gwyllt, fel gylfinirod, ochr yn ochr â ffyrdd proffidiol o weithio.
“Fel sefydliad, gylfinirod yw un o brif flaenoriaethau’r RSPB – mae’r gynhadledd hon yn garreg filltir bwysig a fydd, gobeithio, yn codi mwy o ymwybyddiaeth ynghylch cyflwr y rhywogaeth yn ogystal â dod o hyd i ffyrdd o gydweithio er mwyn gwella’i statws a darparu gwell dyfodol iddi yng Nghymru. Os na chymerwn ni gamau gyda’n gilydd yn awr, efallai y bydd galwad eiconig y gylfinir yn diflannu am byth i genedlaethau’r dyfodol.”