Carwch eich afon medd CNC

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn lansio prosiect i wella ansawdd yr afonydd yn Ne Cymru trwy annog pobl i garu eu dyfrffosydd lleol.
Bydd y prosiect yn targedu nifer o afonydd mewn amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys diwrnodau casglu sbwriel a hybu ymwybyddiaeth ymysg cymunedau sydd ar lannau’r afon ynglŷn â sut i gadw’r afon yn iach.
Bydd y prosiect yn cwmpasu dros 7,000 milltir sgwâr o afonydd, llednentydd a nentydd. Mae hynny’n ardal sydd 34 gwaith mwy na maint Caerdydd.
Trwy wella ansawdd y dŵr yn yr afonydd yma, bydd modd cynnal ecosystem iach i’r planhigion, anifeiliaid, pryfaid a physgod, gan wella eu bioamrywiaeth leol.
Mae cadw’r afonydd yn lân a heb sbwriel hefyd yn cynnig cyfle i hyrwyddo llwybrau cerdded poblogaidd a gweithgareddau eraill sy’n hybu lles.
Dywedodd Hannah Goddard, Swyddog Amgylchedd dros CNC:
“Ein prif bwrpas fel sefydliad ydi edrych ar ôl adnoddau naturiol Cymru, ac er bod ein staff yn frwdfrydig a gweithgar, ni allwn fod yn bresennol ym mhob man trwy’r adeg.
“Rydym ar gael 24/7 i ymateb i ddigwyddiadau ond mae’n rhaid i bobl roi gwybod i ni. Bydd rhoi gwybod i bobl ynglŷn â’r hyn i edrych amdano o gymorth mawr i ni.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chymunedau lleol tuag at nod bwysig, ac rydym yn annog pawb i ymroi i’r digwyddiadau casglu sbwriel sydd ar y gorwel.”
Diwrnodau Casglu Sbwriel:
17 Mawrth – 10yb – Brookfield Avenue, Y Bari
18 Mawrth – 10yb – Fairhills/Byways, Tyllgoed
24 Mawrth – 10yb – Parc Ffordd Skomer,Y Bari
26 Mawrth – 10yb – Henllys Way/Teynes, Hollybush Woodlands/Coed Eva
27 Mawrth – 10yb – Llantarnam Park Way/Lakeside Close, Llynnoedd Llantarnam /Parc Busnes Llantarnam