Achos tebygol marwolaethau pysgod

Rydym wedi darganfod yr hyn y credwn yw ffynhonnell llygredd sydd wedi lladd cannoedd o bysgod yr wythnos diwethaf.
Canfuwyd mwy na 500 o bysgod marw yn yr Afon Cain, llednant o’r Efyrnwy, ar ôl i CNC dderbyn adroddiad o Lansantffraid-ym-Mechain, Powys.
Cadarnhaodd arolygon dros y penwythnos ac ar ddydd Llun (15 Awst) mai’r ffynhonnell debygol oedd gwaith draenio gan dirfeddiannwr.
Credwn bod pwll bywyd gwyllt ac ardal o wlypdir ei draenio.
Er y byddai’r dŵr yn edrych ac arogli yn normal, mae'n debyg y byddai yn cynnwys lefelau isel iawn o ocsigen toddedig.
Byddai hefyd yn cynnwys maetholion a all ostwng lefelau ocsigen hyd yn oed mwy pan fyddant yn torri i lawr.
Mae'n debygol bod y pysgod yn y Cain wedi mygu pan wnaeth y dwr yma gymysgu’n sydyn dyda dwr yn yr afon.
Mae arolwg yn cadarnhau bod chwilod yn yr afon heb gael ei heffeithio - yn ôl pob tebyg oherwydd y gallant oroesi cyfnodau byr o ocsigen isel.
Dywedodd Rob Ireson, Uwch Swyddog Amgylchedd gyda CNC: "Rydym yn eithaf hyderus ein bod wedi dod o hyd i ffynhonnell y llygredd.
“Gall draenio dŵr o bwll i nant ymddangos yn eithaf diniwed - ond mae'n debygol mai dyma a laddodd y rhan fwyaf o'r pysgod ar y darn yma o'r Cain.
"Efallai bydd y dŵr yn edrych ac arogli yn normal - ond gall fod yn angeuol i bysgod.
"Os oes unrhyw un yn meddwl am wneud y math hwn o waith, byddem yn eu hannog i gysylltu â ni i drafod yn gyntaf.
"Gallwn roi cyngor ar sut i wneud hynny mewn ffordd nad yw'n niweidio'r amgylchedd lleol.
"Mae'r Cain, fel ein nentydd ac afonydd eraill, yn gartref i ystod eang o fywyd gwyllt, yn cael ei werthfawrogi gan y gymuned leol ac yn cyfrannu i’r economi wledig - trwy pysgota, er enghraifft.
"Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar ôl y Cain a'n hafonydd eraill."
Gofynwn i unrhyw un roi gwybod ar unwaith am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol neu droseddau posibl i'n llinell digwyddiadau 24 awr - 0800 807060.