Llwyddiant penwythnos beicio mynydd i ferched

Mewn cydweithrediad gyda’i phartneriaid, bu Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal penwythnos beicio mynydd yn arbennig ar gyfer merched.
Dyluniwyd y digwyddiad ‘Temtiwr’ i hybu mwy o ferched i ddechrau beicio mynydd, a chynhaliwyd y digwyddiad ym Mharc Coedwig Coed y Brenin yng Ngogledd Cymru.
Cafodd 60 o ferched y cyfle i wella eu sgiliau beicio, gan ddysgu sut i gynnal a chadw beiciau yn ogystal â chael cymdeithasu gyda beicwyr eraill.
Dywedodd Grace Sanderson, Cynorthwyydd Canolfan Ymwelwyr a Cheidwad Beicio Mynydd Cynorthwyol:
“Mae Coed y Brenin ymysg y safleoedd harddaf yng Nghymru, ac rydym ni’n falch o ddarparu cymaint o lwybrau cyffrous i'r cyhoedd.
“Rydym yn gobeithio y bydd digwyddiadau fel yma’n hybu mwy o ferched i gadw’n heini ac i roi cynnig ar feicio mynydd
“Cawsom adborth positif iawn, a chyda lwc bydd y digwyddiad yn tyfu a’n dod yn rhywbeth blynyddol.”
Roedd gweithgareddau’r penwythnos yn cynnwys hyfforddiant beicio mynydd, gweithdai, teithiau tywys, yoga, ac arddangosiad ffilm.
Roedd Tracey Moseley, cyn-bencampwr Downhill a Gravity Enduro, yn bresennol i siarad â’r merched am ei brwdfrydedd hi dros feicio mynydd, ac i ateb unrhyw gwestiynau oedd ganddynt.
Dywedodd:
“Rwyf wrth fy modd o gael dychwelyd i Goed y Brenin, mae gen i dipyn o hanes yma erbyn hyn, gan ddychwelyd bob blwyddyn i gystadlu neu i fwynhau’r safle gyda ffrindiau.
Mae bod yn rhan o’r gwaith yma o hybu merched i roi cynnig ar feicio, a’u hysbrydoli i feicio’n amlach ac i osod heriau i’w hunain yn golygu tipyn i mi.”
Mae nifer o lwybrau beicio mynydd pwrpasol yng Nghoed y Brenin, gan gynnwys llwybrau coedwig ar gyfer beicwyr newydd yn ogystal â llwybrau “duon” ar gyfer beicwyr profiadol.
Mae ardal sgiliau beicio i’w gael yng Nghanolfan yr Ymwelwyr hefyd, yn ogystal ag ardal hyfforddi, a siop Beics Brenin- lle galwch logi beic neu dderbyn hyfforddiant.
Trefnwyd y digwyddiad gan CNC mewn cydweithrediad â Beics Brenin, Beicio Cymru, Dyfi Events, ac Infinte Exposures.
Dyma sylwadau Toby Bragg, o Beics Brenin a Dyfi Events:
“Dyluniwyd y digwyddiad er mwyn darparu arweiniad a chefnogaeth i ferched sy’n paratoi ar gyfer eu digwyddiadau beicio mynydd cyntaf, megis y Trek Coed y Brenin Enduro ar y 1af o Hydref 2017.
“Bu’r digwyddiad yn gyfle gwych i ferched ddatblygu eu sgiliau mewn sesiynau hyfforddi ac i brofi ambell ran o lwybr y ras, yn ogystal â thrafod tactegau, paratoadau, ac offer gyda hyfforddwyr.”
Cynhelir nifer o ddigwyddiadau beicio mynydd yng Nghoed y Brenin bob blwyddyn gan roi cyfle i’r cyhoedd gadw’n heini a mwyhau’r awyr agored.
Mae’r digwyddiadau’n cynnwys rasys beicio, heriau, dosbarthiadau, a theithiau tywys.
Dywedodd Gaynor Davies, Swyddog Datblygu Merched ar gyfer Beicio Cymru:
“Roeddem wedi anelu at gynnal digwyddiad fyddai’n apelio i ferched o bob oed ac o bob lefel gallu, gan roi cyfle iddynt gwrdd ag eraill, i rannu eu profiadau, ac i ennill gwybodaeth a sgiliau newydd gan yr arbenigwyr a oedd yn bresennol.
“Y llynedd, pan ddechreuom gydweithio gyda Beics Brenin a Cyfoeth Naturiol Cymru, lansiwyd y ganolfan Beicio Mynydd ‘Breeze’ i ferched yng Nghoed y Brenin.
“Rydym yn awr yn cynnal teithiau tywys ‘Breeze’ rheolaidd ar gyfer merched.”
Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf am weithgareddau a digwyddiadau yng Nghoed y Brenin trwy ddilyn y dudalen facebook, neu edrych ar wefan CNC - cyfoethnaturiol.cymru/CoedyBrenin.