Mae ymchwiliadau daear yn cael eu cynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth iddo barhau i ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno cynllun llifogydd newydd i amddiffyn 113 o dai yn Aberteifi rhag llifogydd arfordirol.
Bydd yn rhaid i gontractwyr arbenigol drilio fewn i ddwy ochr o lannau’r afon i gasglu samplau o bridd a gosod monitorau i fwrw golwg ar lefelau dŵr daear. Bydd y canlyniadau’n helpu CNC i werthuso pa fath o waith adeiladu allai fod yn bosibl.
Fe ddechreuir ar y gwaith ar y 23ain Chwefror a dylai barhau am bythefnos.
Mae’n dilyn cyfres ddiweddar o sesiynau galw heibio yn Aberteifi lle cafodd pobl leol y cyfle i drafod eu pryderon am lifogydd gyda CNC a swyddogion Chyngor Sir Ceredigion.
Dywedodd Phill Pickersgill, Rheolwr Gweithrediadau, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Cawsom ymateb gwych yn ein sesiynau galw heibio lle fu pobl leol yn rhannu eu gwybodaeth am yr ardal , a’u profiadau personol o lifogydd gyda ni. Bydd y wybodaeth werthfawr yn helpu ni oleuo ein penderfyniadau wrth i ni edrych ar opsiynau posibl ar gyfer cynllun llifogydd yn Aberteifi.
“Yn ystod gam nesaf ein harchwiliadau, ein harchwiliad daear, fe wnawn ein gorau i beidio darfu gormod ar bobl leol.
“Rydym yn parhau i weithio gyda Chyngor Sir Ceredigion a Dŵr Cymru i geisio rhoi sylw i bob agwedd o lifogydd yn yr ardal. Er na allwn bob amser atal llifogydd rydym yn gobeithio bydd ein hymchwiliadau yn arwain tuag at rai cynlluniau cadarn bydd yn help i reoli a gostwng y perygl o lifogydd yn yr ardal”
Mae CNC yn gobeithio gwneud penderfyniad ar bosibilrwydd o ddatblygu cynllun ar gyfer Aberteifi erbyn haf 2015.
Mae gwasanaeth rhybuddion llifogydd llanw rhad ac am ddim ar gael ar gyfer Aberteifi, gyda 86 o bobl wedi ymuno yn barod. Yn dilyn llifogydd gaeaf diwethaf, mae CNC wedi helpu pobl leol i drefnu cynllun llifogydd cymunedol ar y cyd â chynghorwyr lleol.